Skip to content

WAGC36/07 - Gweithdrefnau Chwythu’r Chwiban mewn Ysgolion a Pholisi Enghreifftiol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.

Crynodeb

Yn ei adroddiad ar Ymchwiliad Clywch a gyhoeddwyd fi s Mehefi n 2004, gwnaeth cyn Gomisiynydd Plant Cymru, Mr Peter Clarke, yr argymhelliad canlynol:

Mewn ymateb, gwnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ymrwymiad mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir i ymgynghori ar, a chyhoeddi, canllawiau ‘arferion gorau’ i gynorthwyo cyrff llywodraethu i sefydlu gweithdrefnau chwythu’r chwiban ar gyfer holl staff yr ysgol.

Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yng Nghymru ynglyˆn â gweithdrefnau chwythu’r chwiban ar gyfer staff ysgolion, ynghyd â pholisi chwythu’r chwiban enghreifftiol y gall cyrff llywodraethu ei fabwysiadu.

Nod y canllawiau yw sicrhau y gall staff ysgolion a gynhelir fynegi pryderon am ymddygiad neu arfer a allai fod yn anghyfreithlon, yn llwgr, yn amhriodol, yn anniogel neu’n anfoesegol neu sy’n gyfystyr â chamymddygiad, mewn modd diogel a phroffesiynol. Mae’r canllawiau yn cynnwys:

  • y cyd-destun cyfreithiol
  • yr hyn y mae chwythu’r chwiban yn ei olygu
  • nod, cwmpas a chyd-destun gweithdrefn chwythu’r chwiban,
  • gan gynnwys y ffordd orau o weithredu proses ar gyfer mynegi
    a delio â phryder.