Skip to content

NAFWC 02/05 - Rhaglen datblygu'r gweithlu gofal cymdeithasol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol personol 2005-2006

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae'r cylchlythyr hwn yn disgrifio'r trefniadau ar gyfer Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol personol. Mae'n cyhoeddi'r dyraniadau grant mynegol, ac yn gwahodd awdurdodau lleol i ymgeisio am y grant erbyn 31 Mawrth 2005.

14/05/2005

Darllenwch y cylchlythyr hwn i gyd yn ofalus. Dylech ddarllen y cylchlythyr ochr yn ochr â “Cynllunio ar gyfer Hyfforddi a Datblygu Staff ar draws y Sector Gofal Cymdeithasol ” (arweiniad i helpu awdurdodau lleol Cymru a’u partneriaid i wneud trefniadau effeithiol ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yn eu hardal o ran hyfforddi a datblygu staff), a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ym mis Gorffennaf 2003. Disgwyliwn weld ceisiadau grant yn amlinellu’n glir y trefniadau ar gyfer Partneriaethau Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol ac yn cynnwys cynlluniau datblygu a hyfforddi staff clir ar gyfer y sector cyfan.

Bydd gwariant a gynlluniwyd ar gyfer Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn 2005-06 yn dod i gyfanswm o £8,928,570. Bydd yr elfen grant, sy'n darparu 70% o gost y rhaglen, yn £6,250,000. Mae rhaglen 2005-06 yn darparu ar gyfer cynnydd o £1,428,570 yng nghyfanswm y gwariant.

Mae’r ddarpariaeth ychwanegol yn cael ei rhoi er mwyn cynnig cymorth pellach i staff ennill y cymwysterau galwedigaethol a argymhellir, a pharhau i gyrraedd Targedau Hyfforddi Cenedlaethol ar draws y sector cyfan, i gynorthwyo gyda'r gwaith o gefnogi Partneriaeth Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol ac yn benodol er mwyn cynnal y gwariant cyfredol ar hyfforddiant cymhwyso ar gyfer gwaith cymdeithasol, trwy secondiadau neu gynlluniau hyfforddeion. Disgwyliwn weld datblygu parhaus yn y meysydd hyn. Cydgyfnerthir y ddarpariaeth ychwanegol a wnaed yn 2004-05 yn rhaglen 2005-06.

Yn amodol ar benderfyniadau'r Cynulliad yn ystod y Cylch Cynllunio Cyllideb nesaf, bydd y ddarpariaeth grant a gynlluniwyd ar gyfer 2006-07 yn £6,250,000.