Skip to content

NAFCW 3/2005 - Cael gwybodaeth gan Gyllid y Wlad er mwyn ateb ymholiadau am ddoiogelwch a lles plentyn

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Pan roedd y Swyddfa Budd-dal Plant yn rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), roedd ganddi'r awdurdod cyfreithiol i rannu gwybodaeth er lles y cyhoedd, gan gynnwys at ddibenion ateb ymholiadau ynghylch diogelwch plentyn.

14/01/2005

Ar ôl cael ei drosglwyddo o'r Adran Gwaith a Phensiynau i Gyllid y Wlad, cafodd ei gwahardd yn gyfreithiol rhag rhannu gwybodaeth at ddibenion o'r fath. Hynny yn sgil y cyfreithiau cyfrinachedd llym a luniwyd i ddiogelu preifatrwydd y data a ddarperir gan gwsmeriaid Cyllid y Wlad.

Mae Adran 63 o Ddeddf Plant 2004 yn diwygio Atodlen 5 o'r Ddeddf Credydau Treth, sy'n golygu bod gan Gyllid y Wlad bellach awdurdod cyfreithiol i ddarparu rhywfaint o wybodaeth i'r awdurdod lleol mewn perthynas â phlant hy enwau a chyfeiriad(au). Dim ond pan fo'r awdurdod lleol ei hangen i fodloni ei gyfrifoldebau statudol i ddiogelu a hybu lles plant y gellir gofyn am wybodaeth o'r fath. Fel arfer, bydd ymholiadau o'r fath yn cael eu gwneud o dan adran 47 Deddf Plant 1989, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau lleol wneud ymholiadau os ydynt yn amau bod plentyn yn dioddef neu'n debygol o ddioddef niwed sylweddol.