Skip to content

NAFWC 10/2005 Grant arbennig cronfa datblygu rheoli perfformiad gwasanaethau cymdeithasol 2005-2006

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r Cylchlythyr hwn yn tynnu sylw awdurdodau lleol at Adroddiad Grant Arbennig (Cymru) 2005 y cytunodd y Cynulliad arno ar 20 Ebrill 2005. Mae manylion y broses ymgeisio a’r ffurflenni yn Atodiad A.

25/04/2005

Ceir copi o’r Adroddiad Grant Arbennig (gydag Isatodiadau) yn Atodiad B. Yn hwn, darperir canllawiau ynghylch bodloni amodau’r Grant yn 2005/06.

Diben y grant yw cefnogi’r broses o weithredu Strategaeth Rheoli Perfformiad y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Hynny er mwyn sicrhau gwelliannau parhaus yn y modd y darperir eu gwasanaethau, sy’n cael eu rheoli, eu monitro a’u mesur yn ôl egwyddorion rheoli perfformiad modern.

Yn 2004, nodwyd prif elfennau'r rhaglen ar gyfer cyflawni hyn yn y ddogfen 'Hysbysu Gofal Cymdeithasol'. Fel 'Rhaglen a Chynllun Gweithredu ar gyfer Datblygu Systemau Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol yng Nghymru', mae'n canolbwyntio ar gyfraniad systemau gwybodaeth i wella perfformiad mewn awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol a'r asiantaethau a sefydliadau sy'n bartneriaid iddynt. Mae'n pennu'r agenda e-lywodraeth ar gyfer gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru lle mae gan ddefnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol y wybodaeth sydd eu hangen arnynt i wneud dewisiadau a phenderfyniadau doeth. Mae hefyd yn adlewyrchu'r farn bod yn rhaid i'r genhedlaeth newydd o systemau gwybodaeth ym maes gofal cymdeithasol gydnabod y cysylltiadau agosach sydd bellach yn rhan annatod o drefniadau gwaith effeithiol, yn enwedig yn y gwasanaethau iechyd ac addysg.