Skip to content

NAFWC 33/05 - Adrodd ar Achosion o Gamymddwyn neu Anghymhwystra Proffesiynol yn y Gwasanaeth Addysg

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.

Mae’r cylchlythyr hwn yn cynnig canllawiau i gyflogwyr ac asiantaethau cyflenwi athrawon ynghylch pa bryd mae’n rhaid gwneud adroddiad ar achosion. Mae’n disodli’r canllawiau a gyhoeddwyd yn Ebrill 2003 (llythyr a anfonwyd at bob cyflogwr dan y teitl ‘Effaith Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003’. Mae hefyd yn eglurhau ac yn ymhelaethu ar Ran 3 o Gylchlythyr rhif 34/02 y Cynulliad Cenedlaethol ‘Amddiffyn Plant: Atal Pobl Anaddas rhag Gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc yn y Gwasanaeth Addysg’, ac Atodiad C i Gylchlythyr rhif 45/2004 y Cynulliad Cenedlaethol ‘Gweithdrefnau Disgyblu Staff mewn Ysgolion’.

Mae’r canllawiau hyn yn anstatudol ac ni ddylid eu cymryd fel cyngor cyfreithiol awdurdodol. Os oes unrhyw amheuaeth ynglyˆn â’u gweithredu neu eu dehongli, dylid ceisio cyngor gan gynghorwr cyfreithiol.

Mae’r canllawiau’n ymdrin â’r materion canlynol:

  • Y fframwaith cyfreithiol - Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003 ac Adran 142 Deddf Addysg Act 2002
  • Diffiniadau o ‘berson’, ‘cyflogwr perthnasol’, ac ‘asiant’
  • Enghreifftiau eraill pryd y dylid neu y gellir gwneud adroddiad
    • Achosion gan rywun heblaw cyflogwr neu asiant
    • Cytundebau cyfaddawd
    • Myfyrwyr
    • Cwmnïau Gyrfa Cymru
  • Camymddwyn
    • Pryd i wneud adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Anghymhwystra
    • Pryd i wneud adroddiad i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
  • Adroddiadau
    • Gwybodaeth y dylid ei chyflwyno
    • Sut yr ymdrinnir ag adroddiadau
    • Rôl yr Adran Addysg a Sgiliau
    • Rôl Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
  • Materion cyffredinol
    • Cyfrinachedd adroddiadau
    • Rhannu gwybodaeth

D.S. Cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, cafodd y ddogfen hon ei hystyried gan y Panel Cynghori ar Lwyth Gwaith Ysgolion (SWAP) ac mae ei aelodau yn cytuno nad oes problemau mawr i’w gweld o ran llwyth gwaith athrawon.