Skip to content

NAFWC 34/2005 - Safonau Ansawdd ar gyfer Gwasanaethau Addysgol i Blant a Phobl Ifanc â Nam ar y Synhwyrau

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r cylchlythyr hwn yn cynnwys cyfarwyddyd ar ddarparu gwasanaethau addysgol i blant a phobl ifanc â nam ar y synhwyrau.

Yn ystod 2003 a 2004, cynhaliodd Llywodraeth Cynulliad Cymru archwiliadau o’r ddarpariaeth addysgol ar gyfer plant a phobl ifanc â nam ar eu clyw, nam ar eu golwg a nam ar fwy nag un synnwyr, a chyhoeddodd adroddiadau ar wahân i ymgynghori yn eu cylch1. Yn dilyn y prosesau ymgynghori hyn, gwelwyd bod gan y tri math o nam faterion cyffredin, a llwyddwyd, felly, i gyfuno’r tri yn un ddogfen. Mae’r safonau ansawdd canlynol yn cael eu cyhoeddi i helpu’r rhai sy’n darparu gwasanaethau i roi cymorth o’r radd flaenaf i blant a phobl ifanc â nam ar y synhwyrau.

Drwy roi disgrifiad clir o’r safonau ansawdd ar gyfer gwasanaethau addysgol i blant a phobl ifanc â nam ar y clyw, nam ar y golwg neu fwy nag un nam, bydd y safonau yn parhau i wella a bydd ymyrraeth a chymorth o’r radd flaenaf yn cael eu darparu. Dylid ystyried y safonau hyn yn feincnodau fel y gall y gwasanaethau a ddarperir gael eu gwerthuso gan yr AALlau drwy ddefnyddio’r tabl hunan-werthuso yn Atodiad C.

Bydd y safonau yn:

  • rhoi mwy o opsiynau i’r plentyn neu’r person ifanc;
  • gwella’r mynediad at gymorth arbenigol a’r gallu i’w gael ym mhob AALl yng Nghymru;
  • sicrhau bod dilyniant o ddarpariaeth deg ar gael;
  • helpu AALlau ac eraill i benderfynu ar adnoddau a threfniadau priodol;
  • helpu’r broses o fonitro a gwerthuso;
  • sicrhau bod gwasanaethau arbenigol rhanbarthol ar gael, lle bo hynny’n briodol.