Skip to content

NAFWC 29/06 - Cymorth i Ddatblygu Gwaith Amddiffyn Plant. 2006/07 – i’w alw’n Gronfa Diogelu Plant o fis Hydref 2006 ymlaen

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r llythyr hwn yn nodi trefniadau ar gyfer hwyluso datblygiadau pellach ym maes gweithdrefnau ac arferion gwaith amddiffyn plant yn ystod 2006-2007 ac mae’n cyhoeddi bod £124,000 yn cael ei ddarparu i gefnogi hyn.

Fe’i cyfeirir at Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol i gydnabod swyddogaeth a chyfrifoldebau’r gwasanaethau cymdeithasol (a nodir yn Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Plant ac yn y canllawiau newydd Diogelu Plant: Gweithio gyda’n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004) i sicrhau bod yna Bwyllgor Ardal Amddiffyn Plant (PAAP), a fydd yn dod yn Fwrdd Lleol Diogelu Plant (BLlDP) ym mis Hydref 2006, yn gwasanaethu eu hardal.

Eto eleni, yn ogystal â’r gwaith a gomisiynwyd yn uniongyrchol yn ei rhaglen ddatblygu, mae AGCC yn dyrannu arian i awdurdodau lleol i hyrwyddo gwaith amddiffyn plant amlasiantaethol a chamau i sicrhau ansawdd y gwaith hwnnw fel rhan o raglen ddatblygu 2006-2007.