Skip to content

NAFWC 36/06 - Rheoliadau Drafft Comisiynydd Pobl Hyn Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cafodd Mesur Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ar 25 Gorffennaf 2006. Fel rhan o'i maniffesto etholiadol ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn 2003, ymrwymodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i greu Comisiynydd Pobl Hŷn yng Nghymru. Mae'r Ddeddf hon yn galluogi'r Cynulliad i wneud hynny, a'r bwriad yw penodi Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am y tro cyntaf erioed yn ystod 2007.
Bydd y Comisiynydd yn gweithredu'n annibynnol, gan weithio i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl hŷn yng Nghymru. Bydd y Comisiynydd yn ffynhonnell o wybodaeth, eiriolaeth a chefnogaeth i bobl hŷn a bydd yn annog pobl i fabwysiadu arferion da wrth ymdrin â hwy. Yn benodol, gall y Comisiynydd adolygu'r effaith a gaiff y broses o gyflawni swyddogaethau, neu'r bwriad i gyflawni swyddogaethau cyrff cyhoeddus megis y Cynulliad, awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau GIG a sefydliadau addysg bellach neu addysg uwch ar bobl hŷn yng Nghymru. Drwy hyn, gall y Comisiynydd sicrhau bod gwaith y cyrff cyhoeddus yn cael effaith gadarnhaol ar
anghenion pobl hŷn, ac yn eu hystyried yn llawn.