Skip to content

NAFWC34/06 - Hawl I Brynu: Eithrio Tai Personau Oedrannus Diweddaru Rhan II O Gylchlythyr 57/93 Y Swyddfa Gymreig

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.

RHAGYMADRODD

Mae paragraff 11 o Atodlen 5 i Ddeddf Tai 1985 yn darparu nad oes Hawl i Brynu yn codi os yw’r eiddo yn arbennig o addas i’w feddiannu gan bersonau oedrannus a’i fod wedi’i osod i’w feddiannu gan berson a oedd yn 60 oed a rhagor.

Mae darpariaethau paragraff 11 yn adlewyrchu newidiadau a wnaed gan adran 106 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliadau, Tai a Datblygu Trefol 1993. Yn benodol, ar yr adeg honno:

  • cafodd pŵer ei roi i landlordiaid i wadu’r Hawl i Brynu mewn perthynas ag eiddo y mae paragraff 11 yn gymwys iddo;
  • rhoddwyd hawl i denantiaid a oedd yn anghytuno â phenderfyniad eu landlord i wadu’r Hawl i Brynu ar y sail hon i ofyn (o fewn 56 diwrnod) i’r Ysgrifennydd Gwladol benderfynu a oedd paragraff 11 yn gymwys neu beidio.

Rhoddodd Rhan II o Gylchlythyr 57/93 y Swyddfa Gymreig, a gyhoeddwyd ar 7 Hydref 1993, grynodeb o’r trefniadau newydd. Esboniodd hefyd sut y byddai’r Ysgrifennydd Gwladol yn ymdrin â cheisiadau gan denantiaid am benderfyniadau a oedd paragraff 11 yn eithrio’u cartrefi nhw o’r Hawl i Brynu neu beidio. Rhoddodd y Cylchlythyr ganllawiau hefyd i landlordiaid am y meini prawf y byddai’r Ysgrifennydd Gwladol yn eu hystyried cyn penderfynu. Cafodd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol wrth wneud penderfyniadau o’r fath ei throsglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672).