Skip to content

2010




Gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd ar gyfer y Gwasanaeth Tân ac Achub.

W-FRSC (2010) 19 - Trefniadau ariannol ar gyfer pensiynau diffoddwyr tân – ffurflen i gael amcangyfrif o grant ychwanegol

04/01/11
Mae'r cylchlythyr hwn yn gofyn i bob Awdurdod Tân ac Achub gwblhau adrannau ariannol ac anariannol y ffurflen bensiynau amgaeedig (FPF1 2010) erbyn 10 Ionawr 2011.
 

W-FRSC (2010) 18 - Diogelwch Tân ar Safleoedd Adeiladu

22/12/10
Mae'r canllawiau hyn yn darparu cyngor ymarferol ar fesurau diogelwch tân ar gyfer safleoedd adeiladu ynghyd â gwybodaeth am y drefn rheoleiddio.
 

W-FRSC (2010) 17 - Cynlluniau pensiwn y diffoddwyr tân - arweiniad ar werthoedd trosglwyddo sy'n gyfwerth ag arian parod (CETV)

13/10/10
Mae'r cylchlythyr hwn yn cynnwys canllawiau diwygiedig ar gynlluniau pensiwn y diffoddwyr tân ac arweiniad ar werthoedd trosglwyddo sy'n gyfwerth ag arian parod (CETV).
 

W-FRSC (2010) 16 - Rhybudd Diogelwch Critigol ynghylch Radio Amledd Uchel Iawn (UHF) mewn Safleoedd Diffodd Tân

24/09/10
Diben y cylchlythyr hwn yw cynghori ynghylch Llythyr Annwyl Brif Swyddog Tân (yr Alban) dyddiedig 12/2010 a gyhoeddwyd ar 23 Medi 2010 ynghylch Radio Amledd Uchel Iawn (UHF) mewn Safleoedd Diffodd Tân.
 

W-FRSC (2010) 15 - Rheoliadau Eitemau Pyrotechnegol (Diogelwch) 2010

14/08/10
Mae'r cylchlythyr hwn yn darparu gwybodaeth am Reoliadau Eitemau Pyrotechnegol (Diogelwch) 2010 a ddaeth i rym ar 4 Gorffennaf 2010 ac mae’n trosi Cyfarwyddeb Ewropeaidd 2007/23/EC yn gyfraith yn y DU
 

W-FRSC (2010) 14 - Gwasanaeth Cenedlaethol Ocsigen yn y Cartref yr Adran Iechyd: Gweithio mewn Partneriaeth â'r Gwasanaethau Tân ac Achub

13/08/10
Mae'r cylchlythyr hwn yn rhoi gwybodaeth am wasanaeth newydd sy'n disodli’r trefniadau blaenorol ar gyfer darparu ocsigen yn y cartref i gleifion trwy fferyllfeydd lleol.
 

W-FRSC (2010) 13 - Cyflenwadau Nwy Allanol

11/08/10
Mae'r cylchlythyr hwn yn rhoi gwybodaeth yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â chyflenwad nwy allanol i eiddo domestig. Arweiniodd hyn at farwolaeth aelod o'r cyhoedd ac mae i hyn oblygiadau ar y Gwasanaeth Tân ac Achub.
 

W-FRSC (2010) 12 - Canllawiau Gweithredol i'r Gwasanaethau Tân ac Achub - Asesiadau Risg Cyffredinol

09/08/10
Mae'r cylchlythyr hwn yn cyflwyno ac yn rhoi gwybodaeth gefndir am adolygu'r Canllawiau Gweithredol i'r Gwasanaethau Tân ac Achub – Asesiadau Risg Cyffredinol.
 

W-FRSC(10)11 Cynlluniau Pensiwn Diffoddwyr Tân - Canllawiau ar Werth Trosglwyddiadau Cyfwerth ag Arian Parod

29/07/10
Gwybodaeth am y newid yn y cysylltiad ar gyfer uwchraddio buddion, o'r Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) i'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), gan gynghori gweinyddwyr pensiynau na ddylid gwneud trosglwyddiadau cyfwerth ag arian parod nes bod Actiwari'r Llywodraeth wedi cyhoeddi canllawia ...
 

W-FRSC(10)10 Dangosyddion Perfformiad 2010-11 – Trefniadau Dros Dro

16/07/10
Mae'r cylchlythyr hwn yn pennu'r dangosyddion perfformiad ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub sy'n berthnasol i 2010-11.
 

W-FRSC(10)09 Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân – Gwerthoedd Trosglwyddo; Dwy Ddarpariaeth Bensiwn - Cysylltu â Mynegeion a Gwahaniaethu ar sail Oedran

09/07/10
Mae'r cylchlythyr hwn yn rhoi cyngor i Awdurdodau Tân ac Achub ynghylch problemau cyfredol yn ymwneud â chyfrifo gwerthoedd trosglwyddo penodol; mae'n rhoi canllawiau ynghylch cysylltu pensiynau hollt â mynegeion a'r diweddaraf ynghylch cynigion i osgoi'r posibilrwydd o wahaniaethu ...
 

W-FRSC(10)08 Creu'r Cysylltiadau – Enillion Effeithlonrwydd 2009-10

06/07/10
Mae'r cylchlythyr hwn yn gysylltiedig â thargedau Creu'r Cysylltiadau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer enillion effeithlonrwydd o ran ffigurau alldro terfynol y Gwasanaethau Tân ac Achub ar gyfer 2009-10.
 

W-FRSC(10)07 Rheoli Iechyd a Diogelwch yng Ngwasanaethau Tân ac Achub y DU

05/07/10
Yn dilyn adolygiad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch o wyth Awdurdod Tân ac Achub yn y DU, mae canfyddiadau'r adroddiad canlynol wedi'u dadansoddi i roi syniad i Awdurdodau Tân ac Achub Cymru ynghylch y prif feysydd risg sydd wedi'u pennu.
 

W-FRSC(10)06 Trefniadau Sicrwydd Gweithredol 2010-11

18/05/10
Mae'r cylchlythyr hwn yn cynnwys trefniadau ar gyfer proses asesu "Sicrwydd Gweithredol ar gyfer Darparu Gwasanaethau" ar gyfer 2010-11.
 

W-FRSC(10)05 Trefniadau ariannol ar gyfer pensiynau diffoddwyr tân – ffurflenni grantiau atodol 2010-11

06/05/10
Mae'r cylchlythyr hwn yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Tân ac Achub lenwi'r ffurflenni pensiwn sy'n atodedig (ffurflenni FPF2 ac FPF3) erbyn 4 Mehefin 2010.