Skip to content

Sut i ddod o hyd i gyhoeddiad

Dolenni perthnasol

Dyma lawlyfr gwybodaeth cynllun cyhoeddi Llywodraeth Cymru, a baratowyd yn unol ag Adran 19 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Os nad yw cyhoeddiad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, gallwch ddod o hyd iddo mewn un o dair ffordd.

Y Ganolfan Cyswllt Cyntaf

Y Ganolfan Cyswllt Cyntaf yw ein gwasanaeth lle gallwch ddod o hyd i unrhyw ddogfen a gaiff ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Y Ddolen Wybodaeth

Prosiect yw'r Ddolen Wybodaeth rhwng Llywodraethl Cymru ac Awdurdodau Llyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghymru. Ei nod yw darparu gwybodaeth am y Llywodraeth Cymru a chan y Cynulliad sy'n hawdd i'r cyhoedd ei chyrchu gan ddefnyddio rhwydwaith o 40 o lyfrgelloedd dynodedig ledled Cymru.

Catalog Cyhoeddiadau / Y Gofrestr Wybodaeth

Gallwch edrych ar ein Catalog Arlein ar-lein newydd (y Gofrestr Wybodaeth gynt) am fanylion eitemau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru ac am wybodaeth ynghylch archif y Swyddfa Gymreig. Mae'r catalog hefyd yn cynnwys ffurflen archeb er mwyn archebu cyhoeddiadau. Os nad ydych wedi llwyddo i ffeindio'r hyn yr ydych yn chwilio amdano, cysylltwch â'r Ganolfan Cyswllt Cyntaf os gwelwch yn dda.