Gwahardd Smygu Cymru
Daeth y ddeddfwriaeth ddi-fwg i rym yng Nghymru ar 2 Ebrill 2007, gan roi diwedd ar smygu mewn mannau cyhoeddus caeedig a sylweddol gaeedig. Mae'r mwyafrif llethol wedi cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ac mae nifer cynyddol o'r cyhoedd yn parhau i gefnogi'r ddeddfwriaeth.
Mae'r gyfraith yn creu tair trosedd benodol:
- Methu ag arddangos arwyddion dim smygu mewn mangreoedd sy'n dod o dan y gyfraith
- Smygu mewn man di-fwg
- Methu ag atal smygu mewn man di-fwg.
Mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am y ddeddfwriaeth ddi-fwg ac am sut y mae'n effeithio arnoch chi.
Dolenni perthnasol
Yma, cewch ganllawiau ar y ddeddfwriaeth ddi-fwg yng Nghymru.
Cyfeiriadau, cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn.
Cyngor, cysylltiadau ac adnodday i'ch helpu chi roi'r gorau i smygu.
