A yw’n effeithio ar eich busnes?
Sut mae’r ddeddfwriaeth ddi-fwg yn effeithio ar fy mangre fusnes i?
Na chewch chi, na’ch staff, na chwsmeriaid nac ymwelwyr smygu ym man gaeedig eich mangre. premises.
Beth mae angen i mi ei wybod er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith ddi-fwg?
Rhaid i gyflogwyr, rheolwyr a’r rhai sy’n gyfrifol am fangreoedd di-fwg arddangos arwyddion dim smygu a chymryd camau rhesymol i sicrhau bod y staff, cwsmeriaid, aelodau ac ymwelwyr yn ymwybodol o’r gyfraith newydd ac nad ydynt yn smygu ar eu safle hwy. Rydym yn argymell eu bod yn cymryd y camau gofynnol hyn:
- dangos arwyddion dim smygu (yn unol â’r rheoliadau a’r canllawiau) er mwyn i’r holl weithwyr, cwsmeriaid ac ymwelwyr allu eu gweld yn glir pan fyddant yn y fangre;
- datblygu a rhoi polisi di-fwg ar waith (gallwch lawrlwytho enghraifft o’r dudalen gyfarwyddyd);
- peidio â rhoi blychau llwch yn y fangre;
- dweud wrth bawb sy’n smygu eu bod yn cyflawni trosedd;
- gofyn iddynt ddiffodd eu sigarét/pib/sigâr ar unwaith neu adael;
- gwrthod rhoi gwasanaeth i gwsmer neu aelod os yw’n parhau i smygu’n gyhoeddus.
A yw busnesau’n cael cefnogaeth?
Mae canllawiau manwl i fusnesau i’w gweld ar y wefan hon. Maent yn disgrifio’r camau y dylai cyflogwyr, rheolwyr a’r rheini sy’n gyfrifol am fangreoedd eu cymryd i gydymffurfio â’r gyfraith ar smygu. Er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith, bydd angen i chi ddangos arwyddion ‘Dim Smygu’ mewn mangreoedd a cherbydau di-fwg.
Hefyd, bydd modd lawrlwytho’r rhain o’r wefan hon neu gallwch ofyn i adran iechyd amgylcheddol neu adran diogelu’r cyhoedd eich awdurdod lleol am gopïau. Os bydd unrhyw broblem yn codi o ran cysylltu â’ch awdurdod lleol, gallwch gysylltu â Llywodraeth Cynulliad Cymru drwy e-bostio TobaccoPolicyBranch@wales.gsi.gov.uk.
