Canlyniadau’r gyfraith ddi-fwg
Yn yr adran hon, ceir crynodeb o ganlyniadau cynnar y ddeddfwriaeth yn ogystal â data ar orfodi'r gyfraith.
Y mwyafrif yn cadw at y ddeddf
Mae mwyafrif llethol o aelodau'r cyhoedd yn cefnogi'r ddeddfwriaeth.Yn ôl adroddiadau'r awdurdodau lleol, mae 97% o bobl yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth, tua'r un ganran ag a geir yng Ngweriniaeth Iwerddon a gwledydd eraill y DU. other UK countries.
Mae cefnogaeth y cyhoedd i'r ddeddfwriaeth yn cynyddu fwyfwy
Yn ôl arolygon barn, mae nifer y bobl sy'n cefnogi'r ddeddfwriaeth wedi cynyddu ers iddi ddod i rym. Bellach, mae 84% o oedolion yng Nghymru (92% o bobl nad ydynt yn smygu a 63% o smygwyr) o blaid y gwaharddiad, o'i gymharu â:
- 71 y cant o oedolion ym mis Chwefror 2006
- 77 y cant o oedolion ym mis Chwefror 2007 (88 y cant o bobl nad oeddent yn smygu a 51 y cant o smygwyr).
Mae ansawdd yr aer wedi gwella
Mae modd monitro ansawdd yr aer drwy fesur lefelau'r gronynau yn yr awyr.
Yn ôl Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd, sydd wedi bod yn monitro'r sefyllfa, mae ansawdd yr aer mewn tafarndai wedi gwella'n sylweddol ers cyflwyno'r ddeddfwriaeth ddi-fwg, ac mae lefelau'r gronynau wedi gostwng 77% ar gyfartaledd.
Mae pobl yn smygu llai
Dywedodd 30 y cant o smygwyr a holwyd ar gyfer Arolwg Cyffredinol yng Nghymru ei bod yn smygu llai o sigarèts ers i'r gwaharddiad gael ei roi ar waith.
Mae mwy o bobl yn rhoi'r gorau i smygu
Yn ôl Dim Smygu Cymru, mae 20% yn fwy o bobl wedi cysylltu â'r gwasanaeth yn sgil cyflwyno'r ddeddfwriaeth ddi-fwg.
Mae'r gwasanaeth yn darparu cyngor gr?p a chyngor un-i-un er mwyn helpu smygwyr i roi'r gorau i'r arfer.
Monitro a gwerthuso'r ddeddfwriaeth ddi-fwg
Mae gwaith ymchwil wedi'i gomisiynu i ganlyniadau'r ddeddfwriaeth, gan gynnwys newidiadau mewn gwybodaeth ac agweddau, newidiadau mewn agweddau at smygu ac yfed, ac yn y ffordd mae oedolion a phlant yn dod i gysylltiad â mwg tybaco. Bydd y canfyddiadau cychwynnol ar gael yn hydref 2008.
Mae data'n cael ei gasglu drwy'r broses arferol o fonitro'r materion canlynol:
- Y nifer sy'n smygu fesul oed, rhyw, gr?p cymdeithasol-economaidd ac ardal Awdurdod Lleol
- Newidiadau mewn cyfraddau marwolaeth ac afiachusrwydd
- Cydymffurfio a gorfodi (drwy adroddiadau monitro'r Awdurdodau Lleol)
