Cyngor ar roi’r gorau i smygu
Cyngor, cysylltiadau ac adnoddau i helpu i chi roi'r gorau i smygu.
Llinell Gymorth Smygwyr Cymru
I gael cyngor ymarferol am ddim ar roi’r gorau i smygu, gallwch ffonio Llinell Gymorth Smygwyr Cymru ar 0800 169 0 169.
Mae’r llinell gymorth hon yn cynnig:
- cyngor cyfrinachol un-i-un gan gynghorwyr sydd wedi’u hyfforddi;
- arweiniad ar roi’r gorau i smygu a help gyda phroblemau cysylltiedig;
- taflenni gwybodaeth am sut i fynd ati i roi’r gorau i smygu a sut i gynllunio a pharatoi ar ei gyfer;
- arweiniad ar gael cymorth gan Dim Smygu Cymru.
Dim Smygu Cymru
Gwasanaeth sydd ar gael i smygwyr sydd am help i roi’r gorau i smygu yw Dim Smygu Cymru. Y cyfan y mae angen ei wneud yw ffonio 0800 085 2219 i gael gwybod lle mae eich gwasanaeth rhoi’r gorau i smygu lleol a sut i ymuno â’ch grŵp cymorth lleol i’ch helpu i roi’r gorau iddi. Bydd staff sydd wedi’u hyfforddi wrth law i gynnig arweiniad, cymorth ar sut i roi’r gorau iddi, gwybodaeth am therapi disodli nicotin a chyfle i chi gael cyngor unigol a therapi grŵp, a hynny’n ddi-dâl.
Dolenni defnyddiol eraill
Dolenni perthnasol
Cyfeiriadau, cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn.
