Skip to content

Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu

Dolenni perthnasol

Mae Cymru Ddigidol yn amlinellu dyfodol digidol disgleiriach i bawb yng Nghymru.
Casgliad o wahanol ddelweddau darlledu ar ffurf tro yn erbyn cefndir gwyn.
Mae technoleg yn cael effaith gynyddol ar fywyd pob dydd. Mae gyrfaoedd, busnesau ac addysg oll yn cael eu gwella drwy ddefnydd effeithiol o Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh).

Mae rôl amlwg i TGCh mewn datblygiad economaidd ac ym maes ehangach datblygu cymunedau cymdeithasol. Gall helpu i wella cynhyrchiant a chystadleurwydd ar draws yr economi gyfan.

Cewch wybodaeth yma am ein polisi seilwaith TGCh a sut yr ydym yn ceisio defnyddio TGCh er mwyn cynorthwyo:

  • datblygu technolegau newydd a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg,
  • gwella'r gallu i fanteisio ar fand eang ar draws Cymru.