Skip to content

Cynllun Cymorth Band Eang

Dolenni perthnasol

Lawrlwytho'r ffurflen gais , y canllawiau a'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Cynllun Cymorth Band Eang yma.
Dau yn siariad.
Mae’r Cynllun Cymorth Band Eang yn cynnig arian i brynu ffordd arall o gysylltu â band eang pan nad yw cwmnïau telegyfathrebu’n gallu cynnig gwasanaeth.

Bydd y Cynllun yn galluogi unigolion, busnesau a chymunedau yn y mannau araf sydd ar ôl yng Nghymru i gysylltu’n uniongyrchol â darparwyr gwasanaeth, gyda chefnogaeth cyllid Llywodraeth Cymru.  

Pwy all ymgeisio am gefnogaeth?

  • Unigolion
  • Cymunedau
  • Busnesau bach a chanolig
  • Sefydliadau’r trydydd sector

Allwch chi ddim ymgeisio am y Cynllun os ydych wedi derbyn arian o gynllun arall band eang a oedd yn cael ei ariannu’n gyhoeddus neu os nad ydych chi’n bodloni meini prawf y cynllun. 

Am faint o gymorth alla i ymgeisio?

Bydd hyd at £1,000 o bunnoedd o gymorth ar gael i eiddo unigol.

Pryd fydd y Cynllun yn dod i ben?

Bydd y Cynllun Cymorth Band Eang yn parhau i ystyried ceisiadau newydd tan 30 Medi 2013.