Skip to content

Mewn man gwan band eang?

Dolenni perthnasol

Cwblhewch y ffurflen hon os ydych wedi ceisio cael cysylltiad band eang yng Nghymru ac wedi methu.
Mae’r Cynllun Cymorth Band Eang yn cynnig arian i brynu ffordd arall o gysylltu â band eang pan nad yw cwmnïau telegyfathrebu’n gallu cynnig gwasanaeth.

Os nad oes band eang gennych chi'n barod neu os yw eich cyflymder lawrlwytho band eang yn llai na 512Kbps rydych chi mewn man gwan band eang.

Beth yw man gwan band eang?

Mae man gwan band eang yn digwydd fel arfer oherwydd y pellter y mae person yn byw o'r gyfnewidfa ffôn leol - po bellaf, gwannaf yw'r signal.

Mae dod yn ddigidol weithredol yn golygu bod pobl yn byw bywydau llawnach a mwy gweithredol, a gall busnesau ehangu a chystadlu'n fwy effeithiol. Rydym wedi ymrwymo i alluogi cymunedau sydd â'r angen mwyaf.

Sut rydym yn helpu

Rydym yn buddsoddi mewn seilwaith Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) a band eang i alluogi cymunedau a busnesau ledled Cymru i gael band eang. Rydym yn gwneud hyn drwy:

Adnabod a galluogi mannau gwan band eang

Gyda help BT rydym wedi nodi rhai cymunedau gwan band eang ac mae gennym raglen ar y gweill i uwchraddio'r seilwaith sy'n eu gwasanaethu. Mae miloedd o safleoedd yng Nghymru wedi elwa ar y buddsoddiad ar y cyd hwn sydd wedi rhoi darpariaeth band eang y genhedlaeth gyntaf.

Er mwyn cofrestru'r ardal lle rydych chi'n byw fel man gwan band eang, defnyddiwch eich Ffurflen Gofrestru Man Gwan Band Eang.


Rhoi cymorth ariannol i unigolion a busnesau

Nod y Cynllun Cymorth Band Eang yw darparu cyllid cynorthwyol er mwyn prynu datrysiad band eang i gyflenwi gwasanaeth lleiafswm cyflymder band eang o 512Kbps i unigolion, busnesau, cyrff trydydd sector a chymunedau. Bydd hyd at £1,000 o bunnoedd o gymorth ar gael.

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn rhaid eich bod yn methu derbyn band eang neu fod gennych fand eang sydd â chyflymder lawrlwytho sy'n gyson o dan 512Kbps.