Skip to content

Ydych chi mewn man araf band eang?

Dolenni perthnasol

Cwblhewch y ffurflen hon os gallwch gael band eang ond ar gyflymder llai na 2Mbps.

Os ydych chi'n cael gwasanaeth band eang araf, efallai eich bod chi mewn man band eang.

Beth yw man araf band eang?

Mae man araf band eang fel arfer yn digwydd oherwydd y pellter mae person yn byw o gyfnewidfa ffôn leol. Po bellaf rydych chi o'r gyfnewidfa, gwannaf yw'r signal ac arafaf yw'r gwasanaeth.

Sut rydw i'n gwybod os ydw i'n byw mewn man araf derbyn band eang?

Ceir gwybodaeth ar sut i wirio cyflymder eich cysylltiad band eang o dudalen 'Sut i wella cyflymder eich band eang'. Bydd cyflymder y rhyngrwyd yn amrywio yn enwedig ar adegau prysur; felly rydyn ni’n argymell eich bod chi’n gwirio cyflymder eich cysylltiad ar wahanol adegau yn ystod y dydd.

Ydych chi wedi gwirio eich cyflymder band eang? Ydych chi'n byw mewn man araf band eang?  - Hoffem glywed oddi wrthych

Os yw'r canlyniadau'n dangos bod gan eich cysylltiad band eang gyflymder lawrlwytho cyson sy'n is na 2Mbps, llenwch ein Ffurflen Cofrestru Mannau Araf ar gyfer Derbyn Band Eang sydd ar ochr dde'r dudalen hon.