Skip to content

Archwiliad iechyd Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) i Fusnesau

Dolenni perthnasol

Llenwch y ffurflen hon i gofrestru ar gyfer archwiliad iechyd Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) am ddim.
Stethosgop meddygol ar ben bysellfwrdd cliniadur.
Rydym yn cynnig cymorth i fusnesau sy’n gallu cael cyngor annibynnol, diduedd gan ymgynghorwyr ynglŷn â defnyddio TGCh yn effeithiol.

A yw’ch busnes yn defnyddio TGCh yn effeithiol?

Mae modd gwneud prosesau busnes pwysig yn fwy effeithlon a llwyddiannus drwy gyflwyno TGCh.  Mae cyflwyno prosesau electronig yn gwella rhyngweithio, trafodion a rheoli busnes rhwng cyflenwyr, gweithgynhyrchwyr a chwsmeriaid.

Cofrestrwch eich busnes i gael archwiliad iechyd am ddim

Dewch i weld os gall eich busnes wella’i effeithlonrwydd TGCh drwy lenwi ffurflen ar-lein am archwiliad iechyd TGCh am ddim. Fel arall ffoniwch 03000 6 03000 i siarad â’n tîm.

Beth yw’r archwiliad iechyd?

Os yw’ch busnes yn gymwys, bydd yr archwiliad iechyd TGCh:

  • Yn nodi cyfleoedd i wella’ch busnes;Yn esbonio effeithlonrwydd, cynhyrchiant, cystadleurwydd, proffidioldeb a thorri costau drwy ddefnyddio TGCh.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Ar ddiwedd y broses bydd eich busnes yn cael adroddiad TGCh. Bydd yr adroddiad yn amlinellu canfyddiadau’r adolygiad ac yn rhoi datganiad o’r gofynion. Bydd y gofynion sy’n cael eu hawgrymu yn galluogi busnesau i benderfynu a ydynt am brynu’u TGCh gan eu cyflenwr, cael rhagor o gyngor gan y tîm e-fusnes neu wneud dim nes ei fod yn gweddu orau.