Skip to content

Rheolydd y diwydiant cyfathrebu

Ofcom logo
Ofcom yw’r rheoleiddiwr ac awdurdod cystadleuaeth annibynnol i ddiwydiannau cyfathrebiadau’r DU.

Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â’r rheolydd yng Nghymru ac yn y DU i drafod polisïau a materion sy’n gysylltiedig â chwsmeriaid a rheoleiddio. Mae Ofcom yn cyhoeddi canlyniadau pob ymgynghoriad gan gynnwys yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Sut mae cwyno wrth Ofcom

Os ydych yn gwsmer, yn wyliwr neu yn wrandäwr a’ch bod am gwyno wrth Ofcom, ceir disgrifiad o’r camau i'w cymryd ar eu gwefan sef www.ofcom.org.uk (dolen allanol).

Cod Ymarfer ar Gwynion darparwyr telathrebu

Mae’n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau telethrebu  gyhoeddi cod ymarfer ar gwynion sydd wedi cael ei gymeradwyo gan Ofcom, a  galluogi pobl i ddefnyddio gwasanaeth amgen ar gyfer datrys problemau (ADR).

Os byddwch yn cael trafferthion gyda’r gwasanaeth i gwsmeriaid, dylech ddilyn cod ymarfer y cwmni i ddechrau. Fodd bynnag, os na chaiff y broblem ei datrys, yna dylech gyfeirio’r achos at y gwasanaeth ADR perthnasol. Mae’r cynllun ADR yn gyfryngwr annibynnol rhwng y cwmni a’r cwsmer. Os oes bai ar y cwmni, gall yr ADR orchymyn i’r cwmni ddatrys y broblem a thalu iawndal, lle bo angen. Dylai  manylion cynllun ADR y cwmni fod naill ai ar gefn eich bil ffôn, neu gall staff gwasanaethau cwsmeriaid y cwmni eu rhoi i chi.