Skip to content

Darparwyr Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM)

Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru gyda’r plant mewn digwyddiad STEM.
Os oes gennych ddiddordeb yn y pynciau STEM - gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg – fel unigolyn, athro, rhiant, neu fyfyriwr, efallai yr hoffech gysylltu â’r sefydliadau hyn.

Mae’r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol (NSA) yn cydlynu gweithgareddau i ennyn diddordeb mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM). Mae ganddi gynllun grantiau cystadleuol er mwyn helpu i ariannu prosiectau.

Yn yr adran hon ceir gwybodaeth am sefydliadau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a sefydliadau ledled y DU sy’n gweithio yng Nghymru. Maent yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau. Ceir mwy o fanylion ar eu gwefannau. (Nid yw Llywodraeth Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros gynnwys gwefannau allanol.)

Nid yw hon yn rhestr gyflawn o weithgareddau STEM yng Nghymru. Rydym yn cynnal arolwg ar hyn o bryd o weithgareddau STEM a darparwyr STEM yng Nghymru. Byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth honno yn ystod haf 2012. Os hoffech ein hysbysu am eich gweithgareddau chi, gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at NSA@Wales.GSI.Gov.uk