Skip to content

Y Penwythnos Anifeiliaid

Merch gyda llo.
Mae’r Penwythnos Anifeiliaid yn gyfle i bobl sy’n byw yn y ddinas gael gweld anifeiliaid a bywyd gwyllt.

Techniquest sy’n trefnu’r penwythnos blynyddol hwn gyda nawdd gan yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol.  Nod Techniquest yw gwneud gwyddoniaeth yn fwy hygyrch i bawb ac ysbrydoli pobl i ddysgu mwy am y pwnc.

Cafodd teuluoedd o gymuned leol Bae Caerdydd gyfle i ddysgu am yr amrywiaeth o anifeiliaid a bywyd gwyllt sy’n byw ar garreg eu drws.

  • Daeth Lloches i Dylluanod Glyn Ebwy ag adar ysglyfaethus i’r digwyddiad;
  • Daeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru â chŵn chwilio ac achub i’r digwyddiad;
  • Roedd ymwelwyr yn gallu gweld buwch yn cael ei godro;
  • Daeth Dr Rhys Jones, seren rhaglen deledu ‘Rhys to the Rescue’ ag amrywiaeth o ymlusgiaid i’r digwyddiad;
  • Cafwyd arddangosfa bysgota yn y Bae gan Bysgotwyr Morgannwg.

Cafwyd cyfle hefyd i glywed am waith yr RSPB, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De Cymru, Troseddu Bywyd Gwyllt a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ay y wefan Techniquest (dolen allanol).