Skip to content

Ysbrydoli pobl ifanc mewn mathemateg, ffiseg a chemeg

Y thema ar gyfer gweithdy i athrawon Cyfnod Allweddol 3 oedd ‘Dod â’r “Ffactor Waw” i’r dosbarth’.

Roedd y siaradwyr yn defnyddio rocedi, ceir llusgo, asteroidau, ceir sydd â chyflymder o 1,000 milltir yr awr a hud a lledrith i wneud addysgu yn y dosbarth yn fwy cyffrous.

Ym mis Ionawr 2012, daeth athrawon o bob cwr o Gymru i'r gynhadledd hon yn Abertawe.  Fe’i trefnwyd gan Sefydliad Gwyddorau Cyfrifiadurol a Mathemategol Cymru gyda chyllid gan yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol. 

Hefyd, bu’r athrawon yn rhannu syniadau am addysgu pynciau STEM gan ddysgu am y canlynol:

  • dattblygiadau yn y cwricwlwm;
  • ymchwil addysgiadol diweddar a sut y gellir cyfrannu ato;
  • cyfleoedd eraill ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ay y wefan Sefydliad Gwyddorau Cyfrifiadurol a Mathemategol Cymru (dolen allanol).