Skip to content

Byd Arall

Grŵp o ffyngau oren, o'r enw Hygrocybe lanecovensis.
Mae’r arddangosfa hon yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn dangos sut mae ffyngau’n hanfodol i’n bywyd ar y ddaear.

Rhai o uchafbwyntiau’r arddangosfa yw fforest o gawsiau llyffant mawr, madarch sy’n tywynnu yn y tywyllwch a Rwlét Rwsieg gyda ffyngau gwenwynig.

Yn aml, mae pobl yn meddwl bod ffyngau’n bethau peryglus neu  sinistr.  Nod yr arddangosfa ‘O Deyrnas Arall/From Another Kingdom’ yw dangos pa mor ddefnyddiol a diddorol ydynt a chwalu’r portread negyddol ohonynt.

Mae dros 800 o ymwelwyr wedi bod yn mwynhau deg sesiwn ‘Fun With Fungi’ – diwrnod llawn gweithgareddau i’r teulu cyfan ddysgu mwy am y ffyngau sydd i’w gweld yn ein bywydau pob dydd trwy ddefnyddio microsgopau, tynnu lluniau a gwneud modelau. Hefyd, trefnwyd chwe thaith gerdded i ddarganfod ffyngau yn yr Ardd ac ymunodd 100 o ymwelwyr a phlant ysgol yn yr hwyl a’r sbri.

Yn ei blwyddyn gyntaf, mwynhaodd dros 100,000 o bobol yr arddangosfa.  Daeth llawer iawn mwy o bobl i glywed am yr arddangosfa ar ddwy raglen radio a recordiwyd yn yr Ardd a ddarlledwyd ar Radio 4.

Mae’r arddangosfa wedi rhoi cyfle i bobl o bob cwr o Gymru sydd â diddordeb mewn ffyngau ddod at ei gilydd.  Mae’r trefnwyr nawr yn trefnu Diwrnod Ffyngau Cymru a gynhelir ar 14 Hydref 2012.  Cynhelir digwyddiadau ar hyd a lled Cymru i addysgu pobl am ffyngau a manteision eu gwarchod.

Arddangosfa yw hon gan Ardd Fotaneg Frenhinol Caeredin a llwyddwyd i ddod â hi i Gymru gyda chymorth ariannol yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ay y wefan Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (dolen allanol).