Skip to content

Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru

Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru logo
Mae’r Cyngor yn grŵp cynghori annibynnol o arbenigwyr o bwys sy’n rhoi arweiniad a chyngor i Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru.

Mae aelodau Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru yn arbenigwyr ar amrywiol bynciau.  Bydd y Cyngor yn rhoi gwybodaeth a chyngor ar faterion sy’n ymwneud â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.  Bydd yn ystyried swyddogaeth gwyddoniaeth yn natblygiad cymdeithasol ac economaidd Cymru.  Mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn allweddol i economi a ffyniant Cymru.  

Mae’r Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru yn uniongyrchol atebol i’r Prif Gynghorydd Gwyddonol, yn hytrach na Gweinidogion, ac nid oes ganddo gyfrifoldebau statudol nac ariannol.  Mae’r penodiadau’n ddi-dâl.  Y Prif Gynghorydd Gwyddonol yw cadeirydd y Cyngor, ac mae cyd-gadeirydd annibynnol, sef yr Athro Chris Pollock.

Gwefan

www.gwyddoniaethcymru.org (Dolen Allanol)