Skip to content

Yr economi

Dolenni perthnasol

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod ei bod yn bwysig i fusnesau a dinasyddion ledled Cymru allu defnyddio dulliau fforddiadwy a diogel o delathrebu.
Mae’r Cynllun Cymorth Band Eang yn cynnig arian i brynu ffordd arall o gysylltu â band eang pan nad yw cwmnïau telegyfathrebu’n gallu cynnig gwasanaeth.
Handshake
Rydym eisiau sbarduno twf economaidd trwy cefnogi cwmnïau o Gymru i ecsploetio datblygiadau technoloegol er mwyn arloesi, tyfu a manteisio ar farchnadoedd newydd.

Mae cystadleurwydd llawer o fusnesau Cymru yn dibynnu ar eu gallu i ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh).  Gellir leihau costau trafodion, dileu rhwystrau i farchnadoedd, lleihau cadwyni cyflenwi ac effeithio ar leoli cystadleuol, gan arwain at gyfleoedd i dyfu a gwella cynhyrchiant.

Mae hefyd yn alluogwr arloesedd o ran datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd. 

Ein strategaeth i helpu busnessau Cymraeg yn cynnwys:

  • Ceisio manteisio ar gyfleoedd newydd ac arbenigol ar gyfer Cymru – gan gynnwys gwasanaethau a rhaglenni symudol, systemau sy’n cyflawni un neu ambell swyddogaeth bwrpasol a thechnolegau amgylchol;
  • Darparu atebion priodol a galluogi strategaethau ar gyfer mynd i’r afael ag e-drosedd fel mae’n ymwneud â busnes;
  • Cefnogi rhaglenni TGCh sydd o fudd i’r amgylchedd, fel gwella effeithlonrwydd ynni ac adnoddau a lleihau’r angen i deithio.

Astudiaeth Achos

Gwyliwch y fideo are chwyth y tudalen hon am esiampl o amcan hon