Skip to content

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Cynghori Cymru Ddigidol 2011

Dolenni perthnasol

Mae Rhwydwaith Cynghori Cymru Ddigidol yn rhoi cyngor arbenigol rheolaidd i Weinidogion.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Yr adroddiad hwn yw Adroddiad Blynyddol cyntaf y Bwrdd. Mae'n cynnwys manylion y prif faterion ac argymhellion a ystyriodd y Bwrdd yn ystod 2011.

Drwy lunio'r adroddiad, mae'r Bwrdd yn cyflawni ei ddyletswydd i roi cyngor ar ffyrdd o fanteisio ar gyfleoedd yn sgil twf yr economi ddigidol. Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys manylion y prif faterion a ystyriodd y Bwrdd yn ystod 2011, yn ogystal â'r prif argymhellion i Lywodraeth Cymru ystyried eu gweithredu fel rhan o'i chylch gwaith yn 2012. Ymhlith y rhain roedd datblygu mesurau i:

  • annog Busnesau Bach a Chanolig ym mhob sector o'r diwydiant i ddefnyddio sgiliau digidol creadigol;
  • gwella llythrennedd digidol ym mhob cyfnod addysg ac ymhlith y boblogaeth gyffredinol;
  • helpu i sbarduno'r galw am fand eang y genhedlaeth nesaf ac annog mwy o bobl i'w ddefnyddio;
  • datblygu gwasanaethau cyhoeddus syml ar-lein megis system cofrestru am brydau ysgol am ddim a fydd yn helpu i ddangos sut gellir darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell a mwy cost-effeithiol drwy TGCh.