Skip to content

Help i fusnesau

Dolenni perthnasol

Mae'r canllaw newydd hwn yn disgrifio’r cymorth busnes sydd ar gael i fentrau yng Nghymru.
Mae'r canllaw newydd hwn yn amlinellu'r cymorth busnes sydd ar gael i BBaChau yng Nghymru.
Rydym yn cefnogi buddsoddiad o dan arweiniad diwydiant mewn 9 sector allweddol.
e-Fusnes - yn helpu busnesau Cymru i leihau costau, a dod yn gynaliadwy ac yn fwy cystadleuol.
Os hoffech wella’ch canlyniadau, yna bydd gofyn ichi fanteisio i’r eithaf ar eich tîm. A dyna beth yw’n rhan ni yn hyn i gyd.
Busnes ag amcanion cymdeithasol yw menter gymdeithasol.
Mae'r adran hon yn disgrifio sut yr ydym yn cefnogi’r rhaglen Prentisiaethau yng Nghymru.
Gwybodaeth ar gyfer polisi a gynlluniau ffermio, y Polisi Amaethyddol Cyffredin, Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm a fermio cynaliadwy.

Rydyn ni’n cynnig cyngor a gwybodaeth amrywiol i helpu busnesau Cymru i dyfu a ffynnu.

Ein ffocws newydd yw canolbwyntio ar ddarparu amgylchedd a seilwaith gwell i bob busnes, fel bod y sector preifat yng Nghymru yn barod am ddyfodol cadarn a llewyrchus.

Pa gymorth sydd ar gael i fusnesau?

Gwybodaeth a chanllawiau

Mae ein llinell cymorth busnes ar-lein a’n gwasanaethau wyneb yn wyneb yn cynnig gwybodaeth, canllawiau a chymorth i bob busnes yng Nghymru.

Cymorth ariannol

Cyllid Busnes Ad-daladwy

Mae cymorth ariannol bellach yn ad-daladwy, fel y gellir ailgylchu buddsoddiadau a pharhau i fod o fudd i fwy o fusnesau yn y tymor hir.  Ni fyddwn yn codi unrhyw log (ag eithrio os ydych yn hwyr yn gwneud ad-daliad).  Mae’r arian yn cael ei roi i helpu tuag at fuddsoddiadau cyfalaf, i greu swyddi, ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi, a phrosiectau refeniw penodol sy’n gymwys.

I ddod i wybod rhagor, lawrlwythwch ‘Canllaw i gyllid busnes ad-daladwy’ o wefan busnes.cymru.gov.uk (Dolen allanol)

Sut i ddod i wybod mwy am y cymorth sydd ar gael

Gwefan

busnes.cymru.gov.uk (Dolen allanol) yw gwasanaeth gwybodaeth ar-lein Llywodraeth Cymru i fusnesau.  Mae’n cynnig:

  • gwybodaeth gynhwysfawr ar bob agwedd o ddechrau a rhedeg busnes
  • nifer o gyfeirlyfrau o ddigwyddiadau, cysylltiadau busnes a chynlluniau cymorth
  • offer rhyngweithiol sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth wedi’i deilwra ar amrywiaeth eang o faterion busnes, er enghraifft paratoi contract gwaith,
  • trafodion cynllunio busnes, gan olygu ei bod yn bosib gwneud busnes â’r llywodraeth mewn ffordd gyflym a chyfleus, er enghraifft cofrestru busnesau, cyflwyno ffurflenni treth

Ffonio

Mae ein Huned Gwybodaeth Busnes (03000 6 03000) ar agor yn ystod oriau swyddfa arferol.  Mae’n cynnig gwybodaeth busnes wedi’i deilwra, gwasanaethau dangos y ffordd a ffordd hawdd o dderbyn cymorth busnes.

Galw i mewn

Mae ein canolfannau Cyngor Busnes Rhanbarthol yn cynnig gwasanaeth personol i gynnig gwybodaeth a chanllawiau, gyda gwybodaeth diguro am yr amgylchedd busnes lleol a’r rhaglenni cymorth sydd ar gael.  Defnyddiwch y map rhyngweithiol i ddod o hyd i’ch canolfan Cyngor Busnes Rhanbarthol agosaf. (Dolen allanol)