Skip to content

Cyngor Adnewyddu’r Economi




Mae Cyngor Adnewyddu’r Economi, yr hen Gyngor Partneriaeth Busnes, yn rhoi cyngor i helpu i gyfrannu at bolisïau economaidd a busnes yng Nghymru.

Cefndir

Dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, mae gennym ddyletswydd statudol i ymgynghori â busnesau pan effeithir arnynt wrth gyflawni ei swyddogaethau.  Cryfhawyd y ddyletswydd hon i ymgynghori gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud Cynllun Busnes yn nodi sut yr oeddent yn bwriadu ymgynghori â busnesau. 

Ewch i wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru i weld y Cynllun Busnes. (Dolen allanol)

Aelodau’r Cyngor

Mae Cyngor Adnewyddu’r Economi yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiol fusnesau, mentrau cymdeithasol ac undebau llafur, a chadeirir y cyngor gan Brif Weinidog Cymru.

Rydym wedi cadw agwedd hyblyg o ran aelodaeth, mewn cytundeb â’r Cyngor, sy’n galluogi’r Cynog i gael mewnbwn gan yr ystod ehangaf a gorau o wybodaeth a phrofiad yn unol â’r materion a drafodir.

Cyfarfodydd

Mae Cyngor Adnewyddu’r Economi yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn. Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 3 Mehefin 2013.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch Cyngor Adnewyddu’r Economi, anfonwch e-bost at: economicrenewalprogramme@wales.gsi.gov.uk.

Cyfarfod Cyngor Adnewyddu'r Economi a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2013

11/03/13
Papurau wythfed cyfarfod Cyngor Adnewyddu'r Economi a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2013.
 

Cyfarfod Cyngor Adnewyddu'r Economi a gynhaliwyd ar 24 Medi 2012

16/10/12
Papurau saithfed cyfarfod Cyngor Adnewyddu'r Economi a gynhaliwyd ar 24 Medi 2012.
 

Cyfarfod Cyngor Adnewyddu'r Economi a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2012

09/07/12
Papurau chwefed cyfarfod Cyngor Adnewyddu'r Economi a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2012.
 

Cyfarfod Cyngor Adnewyddu'r Economi a gynhaliwyd ar 29 Chwefror 2012

07/03/12
Papurau pumed cyfarfod Cyngor Adnewyddu'r Economi a gynhaliwyd ar 29 Chwefror 2012.
 

Cyfarfod Cyngor Adnewyddu’r Economi a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2011

10/11/11
Papurau pedwerydd cyfarfod Cyngor Adnewyddu’r Economi a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2011.
 

Cyfarfod Cyngor Adnewyddu’r Economi 6 Gorffennaf 2011

22/07/11
Papurau o drydydd cyfarfod Cyngor Adnewyddu’r Economi ar 6 Gorffennaf 2011.
 

Cyfarfod Cyngor Adnewyddu’r Economi 9 Mawrth 2011

31/03/11
Papurau o ail gyfarfod Cyngor Adnewyddu’r Economi 9 Mawrth 2011.
 

Cyfarfod Cyngor Adnewyddu’r Economi 1 Rhagfyr 2010

30/03/11
Papurau o gyfarfod cyntaf Cyngor Adnewyddu’r Economi 1 Rhagfyr 2010.