Skip to content

Adeiladau a thir sydd ar gael

Dolenni perthnasol

Bob blwyddyn, mae’n rhaid i awdurdodau lleol Cymru gwblhau astudiaethau ar y tir sydd ar gael ar gyfer tai er mwyn monitro’r cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai yn eu hardaloedd.
Rydyn ni'n buddsoddi mewn seilwaith Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) a band eang ar gyfer cymunedau a busnesau ledled Cymru i roi cymorth i’n hamcanion o ran cynhwysiant economaidd a digidol.
Mae Llywodraeth Cymru a BT yn gweithio mewn partneriaeth ar raglen 'Cyflymu Cymru' i ddatblygu isadeiledd band eang drwy Gymru.
Mae ein Hardaloedd Menter yn cynnig cymhellion arbennig i ddenu busnesau newydd i leoliadau ardderchog yng Nghymru - gan ddefnyddio dull Cymreig sy'n ffitio i'r dim.
Rydym wrthi’n datblygu system drafnidiaeth o’r radd flaenaf i ddarparu dulliau teithio sy'n ddiogel, yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy i bawb.
Sut mae dylunio lleoedd yn helpu i sicrhau datblygu cynaliadwy.
Mae Ardrethi Annomestig (NDR) hefyd yn cael eu galw’n Ardrethi Busnes. Treth ar eiddo yw’r rhain a delir ar eiddo annomestig.

Sut allwn eich helpu chi i ddod o hyd i safle ar gyfer eich busnes

Mae ein timau'n gallu helpu mentrau a chwmnïau Cymreig i symud i Gymru drwy wneud y canlynol:

  • Dod o hyd i safleoedd y gellir symud iddynt ar unwaith
  • Darparu gwybodaeth am waith ailwampio a safleoedd newydd.

Cymorth ag eiddo

Mae gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i’w gweld ar ein gwefan Busnes Cymru (dolen allanol), neu ffoniwch 03000 6 03000.

Chwiliwch ein cronfa ddata

Ceir amrywiaeth eang o adeiladau a thir ar draws Cymru yn ein cronfa ddata ar-lein (dolen allanol, Saesneg yn unig) i helpu i fodloni eich anghenion busnes.