Skip to content

Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio

Dolenni perthnasol

Sut mae dylunio lleoedd yn helpu i sicrhau datblygu cynaliadwy.

Nod y gronfa yw sbarduno buddsoddi sylweddol mewn datblygu trefol ac ategu'n buddsoddiad mewn Pobl a'r Economi, gan sicrhau manteision cymdeithasol, economaidd ac ariannol.

Rydym yn gweithio ar y cyd â'r Sector Preifat drwy ddefnyddio arian Cydgyfeirio Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Bydd y gronfa'n caniatáu i dir ac adeiladau cyhoeddus gael eu cyfrannu i sicrhau arian cyfatebol i'r cyllid Ewropeaidd. Mae'n seiliedig ar y fenter Cyd-gymorth Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddi Cynaliadwy mewn Ardaloedd Dinesig (JESSICA). Drwy JESSICA, mae modd ail-fuddsoddi enillion cronfeydd a fuddsoddir yn ogystal â denu buddsoddiad gan y sector preifat a defnyddio'i brofiad o ran rheoli prosiectau.

Crëwyd y gronfa fuddsoddi gan y Comisiwn Ewropeaidd i ymateb i'r angen ledled Ewrop i hybu buddsoddi mewn adfywio trefi a dinasoedd.

Defnyddir y gronfa i:

  • ariannu prosiectau,
  • adfywio'r amgylchedd adeiledig,
  • creu gwerth ychwanegol drwy bartneriaeth hirdymor,
  • sicrhau enillion drwy fuddsoddiadau yn y hirdymor.

Yn wahanol i grantiau untro, gellir ailddefnyddio ac ail-fuddsoddi’r gronfa hon sy'n golygu bod yr arian yn mynd yn bellach ac yn sicrhau canlyniadau hirdymor gwell.

Sut mae rheoli’r gronfa

Mae Amber Infrastructure a Lambert Smith Hampton (LSH) wedi’u penodi fel Rheolwyr Cronfa a Buddsoddi ar gyfer Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio.

Penodwyd Amber Infrastructure a LSH ill dau drwy gystadleuaeth agored. Mae Amber Infrastructure yn brif noddwr ac yn rheolwr ar brosiectau seilwaith cymdeithasol ac economaidd. Cwmni ymgynghori eiddo masnachol cenedlaethol yw LSH gyda 27 o swyddfeydd ledled y DU, gan gynnwys Caerdydd ac Abertawe.

Lansiwyd Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio yn 2010.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio.

Ewch i: Cronfa Buddsoddi Cymru (dolen allanol)