Skip to content

Rhaglen Blaenau'r Cymoedd

Dolenni perthnasol

lawrlwytho'r Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu 2020
Os oes arnoch angen cysylltu â Rhaglen Blaenau'r Cymoedd.

Strategaeth adfywio dros gyfnod o 15 mlynedd yw Rhaglen Blaenau'r Cymoedd sy'n cael ei datblygu mewn partneriaeth lawn â phum awdurdod lleol, (Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent a Thorfaen), a rhanddeiliaid lleol eraill er mwyn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol anweithgarwch economaidd a materion eraill yn yr ardal yng nghyd-destun Cynllun Gofodol Cymru.

Y nod yw y bydd Blaenau'r Cymoedd yn dod i fod yn rhwydwaith dynamig a chyfoethog o gymunedau sy'n helpu i hybu llwyddiant de ddwyrain Cymru.

Trwy weithio mewn partneriaeth, gall Llywodraeth Cynulliad Cymru, awdurdodau lleol, Llywodraeth y DU a'r sectorau gwirfoddol a phreifat wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ardal Blaenau'r Cymoedd.

Mae prif amcanion y Strategaeth yn seiliedig ar 5 thema y rhoddir blaenoriaeth iddynt:

  • Amgylchedd naturiol, hanesyddol ac adeiledig sy'n ddeniadol ac a ddefnyddir yn helaeth
  • Tirlun economaidd sy'n ffynnu ac yn cynnig cyfleoedd newydd
  • Poblogaeth sydd wedi cael addysg dda, sy'n fedrus ac yn iachach
  • Profiad deniadol a chydlynol ym maes twristiaeth a hamdden
  • Hyder y cyhoedd mewn dyfodol disglair i bawb gyda'i gilydd.