Skip to content

Ynglŷn â'r rhaglen

Ein nodau ar gyfer 2020:

  • Bydd pobl yn byw mewn trefi a phentrefi, a'r rheiny wedi'u lleoli mewn amgylchedd naturiol a hanesyddol sy'n ddeniadol ac yn cael ei reoli'n dda
  • Bydd yr ardal yn gweithio tuag at fod yn fodel o arfer da mewn cynaliadwyedd, gan ddatblygu ailgylchu ac effeithlonrwydd adnoddau ac ynni
  • Bydd preswylwyr ac ymwelwyr yn defnyddio ac yn mwynhau'r ardal, trwy seiclo, cerdded a gweithgareddau awyr-agored eraill sydd o fudd i'w hiechyd a'r economi leol
  • Bydd gan fusnesau hyder i fuddsoddi yma, a bydd prynwyr tai'n cael eu denu gan y cyfle unigryw i fwynhau holl fanteision bywyd trefol modern mewn amgylchedd gwledig.