Skip to content

Môn a Menai

Nod rhaglen Môn a Menai yw sicrhau ffyniant Ynys Môn a Gwynedd yn y dyfodol.

Fframwaith strategol 2011-2014

Mae'r Fframwaith Strategol 2011-2014 Môn a Menai ar gael trwy'r ddolen i'r chwith. Mae’n ddilyniant i’r fframwaith flaenorol a gyhoeddwyd yn Chwefror 2008.

Cefndir i'r rhaglen

Ym mis Hydref 2006, cyhoeddwyd Rhaglen Môn a Menai fel ymateb i Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn datgomisiynu Gorsaf Bwer Wylfa a'r effeithiau a gaiff hynny.

Ym mis Chwefror 2008, cyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu ar gyfer Môn a Menai ac mae'n amlinellu rhaglen adfywio gynhwysfawr ar gyfer yr ardal.  Nod y rhaglen yw sicrhau ffyniant i Ynys Môn a Gwynedd yn y dyfodol wedi'i seilio ar ganolbwynt economaidd cryf ar ddwy ochr y Fenai.  Mae'r Cynllun Gweithredu'n cael ei gyflawni mewn partneriaeth â'r awdurdodau lleol, sefydliadau addysgol, y sector preifat a'r trydydd sector.