Skip to content

Cymoedd y gorllewin

Dolenni perthnasol

Leighton Andrews , Y Dirprwy Weinidog dros Adfywio.

Ym mis Tachwedd 2008, cyhoeddwyd bod Cymoedd y Gorllewin yn ardal adfywio. Mae'r ardal yn cynnwys naw cwm – Cwm Gwendraeth, Dyffryn Aman, Cwm Tawe, Cwm Dulais, Cwm Nedd, Cwm Afan, Cwm Llynfi, Cwm Garw a Chwm Ogwr.

Ein gweledigaeth ar gyfer yr ardal yw:

Erbyn 2015, bydd Cymoedd y Gorllewin yn cynnwys rhwydwaith o gymunedau unigryw, ffyniannus a chynaliadwy sy'n sicr iawn ynghylch eu cysylltiadau â'r byd ehangach.

Cymunedau sy'n fwy hunanddibynnol ac yn fwy arloesol ac sy'n rhoi cyfle i bawb gyrraedd y safon uchaf bosibl drwy gynnig cyfleoedd i gymunedau a sicrhau ar yr un pryd bod eu hamgylchedd o'r radd flaenaf.

Nod Ardal Adfywio Cymoedd y Gorllewin yw mynd i'r afael â'r materion a'r cyfleoedd yn y pum ardal awdurdod lleol canlynol:

  • Sir Gaerfyrddin;
  • Abertawe;
  • Powys; 
  • Castell-nedd Port Talbot; 
  • Pen-y-bont ar Ogwr.  

Y themâu buddsoddi yw'r economi, cymdeithas a'r amgylchedd. Maent yn adlewyrchu datblygu cynaliadwy ac yn darparu'r fframwaith ar gyfer adfywio Cymoedd y Gorllewin.

Mae'r Ardal Adfywio yn cydgysylltu ac yn cynnal prosiectau adfywio yn unol â chynllun buddsoddi blynyddol y cytunwyd arno.

Mae'r cynllun buddsoddi yn mynd i'r afael ä'r materion craidd sy'n effeithio ar gymunedau'r ardal. Roedd hefyd wedi defnyddio dull partneriaeth i adfywio seilwaith ffisegol a chymunedol drwy raglen newid benodol.

Mae gweithgareddau'r prosiect yn cael eu rhannu rhwng cynlluniau'r themâu a chynlluniau ardaloedd y cymoedd. Mae'r themâu wedi datblygu dros gyfnod y rhaglen. Ar hyn o bryd maent yn cynnwys:

  • adfywio ffisegol;
  • twristiaeth;
  • yr amgylchedd;
  • safleoedd cyflogaeth;
  • byw'n iach;
  • entrepreneuriaeth;
  • cael defnyddio technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) yn y gymuned.

Mae pob un o'r cymoedd hefyd wedi paratoi Cynllun Adfywio Ardaloedd y Cymoedd (VARP). Mae Cwm Aman a Chwm Gwendraeth wedi paratoi cynllun ar y cyd. Mae'r cynlluniau yn nodi:

  • y materion ym mhob cwm; 
  • anghenion y cymunedau; 
  • y camau y bydd angen eu cymryd i fynd i'r afael â'r anghenion hynny.