Skip to content

Sectorau

Dolenni perthnasol

Mae Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd yn nodi’r rhan y gall llywodraeth ddatganoledig ei chwarae i ddarparu’r amodau a’r fframwaith gorau i alluogi’r sector preifat i dyfu a ffynnu.
Mae’r Cynllun yn amlinellu’r blaenoriaethau strategol ar gyfer pob un o'n naw sector allweddol.
Rydyn ni’n cynnig cyngor a gwybodaeth amrywiol i helpu busnesau Cymru i dyfu a ffynnu.

Rydym yn cefnogi buddsoddiad o dan arweiniad diwydiant mewn 9 sector allweddol.

Sectorau allweddol

Y sectorau allweddol y byddwn yn eu helpu yw:

  • Diwydiannau creadigol
  • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
  • Ynni a'r Amgylchedd
  • Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
  • Gwyddorau Bywyd
  • Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol
  • Bwyd a Ffermio
  • Adeiladu
  • Twristiaeth

Paneli'r sectorau

Mae gan bob sector ei banel ei hunan. Maent yn cynnwys yn bennaf pobl fusnes a fydd yn rhoi cyngor ar y cyfleoedd o fewn y sectorau allweddol.

Swyddogaeth paneli'r sectorau

Swyddogaeth pob panel yw rhoi cyngor i Weinidogion ar gyfleoedd ac anghenion y gwahanol sectorau. Maent yn defnyddio eu llwyddiant a'u profiad yn y sector preifat i helpu Llywodraeth Cymru i nodi'r cyfleoedd gorau ar gyfer twf busnes.

Ein nod

Ein nod yw gweld busnesau bach a mawr ym mhob sector allweddol yng Nghymru yn tyfu ac yn creu'r swyddi y mae eu hangen i ddatblygu ein heconomi yn y dyfodol.

Fideos o drafodaethau’r panelau sector

Mae cyfres o drafodaethau’r panelau sector a gynhyrchwyd ar y cyd ag Insider Business TV i’w gweld ar insiderbusiness.tv. (Dolen allanol, Saesneg yn unig)  Mae pob fideo’n canolbwyntio ar sector penodol gan gynnwys panel o arbenigwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat.