Skip to content

Y sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol

Dolenni perthnasol

Mae Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd yn nodi’r rhan y gall llywodraeth ddatganoledig ei chwarae i ddarparu’r amodau a’r fframwaith gorau i alluogi’r sector preifat i dyfu a ffynnu.

Y sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol yw un o'r sectorau allweddol a nodwyd yn Adnewyddu'r Economi: cyfeiriad newydd.

Mae cyfleoedd sylweddol am dwf proffidiol yn y sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol yng Nghymru. Y prif ddylanwad ar hyn yw ailstrwythuro diwydiant Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol y DU a'r angen am fodelau busnes mwy effeithiol o ran cost ac effeithlon.

Y sector Gwasanaethau Ariannol

Mae gan sector Gwasanaethau Ariannol Cymru sylfaen dda mewn bancio manwerthu ac yswiriant cyffredinol. Mae'r twf mewn cyllid asedau, rheoli cyfoeth, yswiriant bywyd a gwasanaethau cynghori a phensiynau wedi ehangu'r sector yn ddiweddar.

Cwmnïau Gwasanaethau Ariannol yng Nghymru

  • Admiral
  • Atradius
  • Barclaycard
  • Go Compare
  • HSBC
  • Lloyds Banking Group
  • Moneysupermarket
  • RBS
  • Santander
  • Zurich Financial Services

Y sector Gwasanaethau Proffesiynol

Mae'r sector Gwasanaethau Proffesiynol yn cynnwys Gwasanaethau Cyfreithiol, Cyfrifyddu a Chorfforaethol. Maent yn gynyddol yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd i ymateb i newidiadau o ran rheoleiddio a'r farchnad drwy ddefnyddio atebion technolegol uwch.

Cwmnïau Gwasanaethau Proffesiynol yng Nghymru

  • ARUP
  • Conduit
  • Deloitte
  • KPMG 
  • Eversheds
  • Geldards
  • Morgan Cole
  • PWC
  • Siemens
  • Vertex
  • Target Group

Pa gymorth sydd ar gael?

Rydym yn cynnig llawer o gymorth i’r sector. Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan: busnes.cymru.gov.uk (Dolen allanol)