Skip to content

Y Sector Bwyd a Ffermio

Dolenni perthnasol

Cyfeiriad clir i’r diwydiant bwyd yng Nghymru allu tyfu mewn ffordd gynaliadwy a phroffidiol dros y deng mlynedd nesaf.
Mae’r Uned Strategaeth a Pholisi Bwyd yn gyfrifol am ddatblygu polisïau, gweithredu deddfwriaeth a monitro cynlluniau gweithredu sy’n helpu i ddatblygu’r diwydiant bwyd yng Nghymru.

Mae’r Sector Bwyd a Ffermio yn cael ei ystyried yn allweddol i economi Cymru.

Beth yw’r Sector Bwyd a Ffermio?

Yn ôl prosiect ymchwil diweddar o’r enw ‘Sgiliau Bwyd a Diod Cymru” a gynhaliwyd ar y cyd gan y Cynghorau Sgiliau Sector a phartneriaid yn y diwydiant, mae’r gadwyn cyflenwi bwyd a diod yn bwysig i economi Cymru o safbwynt gwaith, incwm a’i chyfraniad at dwristiaeth.

Mae’r ymchwil yn amcangyfrif bod tua 18% o weithlu Cymru’n gweithio yn y gadwyn gyflenwi gan gynhyrchu £6 biliwn yn 2010.  Mae’n gwneud yn dda er yr hinsawdd economaidd anodd.

Dywed yr adroddiad bod 27,515 o unedau busnes lleol yn y gadwyn cyflenwi bwyd a diod gan gyflogi rhyw 230,000 o bobl – sef y maes cyflogaeth cyfun mwyaf yng Nghymru.  Mae rhyw 70,000 yn gweithio’n uniongyrchol mewn ffermio yng Nghymru.

At bwrpas Panel y Sector Bwyd a Ffermio, mae angen cydnabod bod “bwyd” yn cynrychioli fframwaith cymhleth o gynhyrchwyr, proseswyr, adwerthwyr a defnyddwyr. 

Cyfeiriad Strategol

Mae ‘Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru 2010-2010. Strategaeth Fwyd Cymru’ yn gosod gweledigaeth eang ar gyfer lle bwyd yng Nghymru, ac yn gyfrwng i ystyried yr amrywiaeth eang o bynciau sy’n ymwneud â bwyd.  Mae’n seiliedig ar egwyddorion datblygu cynaliadwy sy’n cynnwys agweddau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ar gynhyrchu a defnyddio bwyd.

Mae’r strategaeth yn rhoi cyfeiriad clir i ddiwydiant bwyd Cymru dyfu mewn ffordd gynaliadwy a phroffidiol.  Mae’n ystyried ffactorau trawsbynciol fel iechyd, diwylliant ac addysg bwyd, diogelwch y cyflenwad bwyd, cynaliadwyedd amgylcheddol a datblygu cymunedol i roi sylfaen ar gyfer datblygu polisi bwyd integredig yng Nghymru.