Skip to content

Y Sector Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)

Dolenni perthnasol

Gwybodaeth am sut yr ydym yn defnyddio TGCh er mwyn cefnogi technolegau newydd a thechnolegau sy'n datblygu a gwella band eang ar draws Cymru.
Mae Cymru Ddigidol yn amlinellu dyfodol digidol disgleiriach i bawb yng Nghymru.
Gwaith ar y gweill yw'r ddogfen ac nid yw'n Bolisi Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Mae'r sector TGCh yn hwb nid yn unig i ddatblygiad economaidd ond i newid cymdeithasol ehangach hefyd. Mae'n annog cynhyrchadwyedd a chystadleurwydd ar draws yr economi.

Beth yw'r sector TGCh?

Mae'r sector TGCh yng Nghymru yn fyd-eang ac yn ddeinamig ac mae'r wlad mewn sefyllfa dda i ddylunio, datblygu a masnacheiddio technolegau blaengar.  Mae'n cynnwys amrywiaeth eang o gwmniau o gorfforaethau pwysig i Fentrau BAch a Chanolig ar draws y meysydd canlynol:

  • Gwasnaethau TG
  • Meddalwedd
  • Telathrebu
  • Electroneg

Ein hymrwymiad

Rydym yn credu'n gryf bod y sector TGCh yn allweddol i Gymru.  Rydym yn ymrywmedig i gefnogi twf yn y sector trwy barhau i wneud y canlynol:

  • Cynorthwyo busnesau Cymru
  • Gweithio'n agos gydag unigolion academaidd
  • Creu seilwaith o safon ragorol
  • Denu cwmniau o'r radd flaenaf

Sut gall TGCh helpu'r economi?

Gall TGCh alluogi cynnydd mewn masnachu a globaleiddio gan greu byd 'llyfnach' gyda mwy o gystadleuaeth a mwy o gyfleoedd i fusnesau Cymru.  Hefyd, mae'n chwarae rôl bwysig gyda'r canlynol:

  • Ein helpu ni i ddiwallu sialens y newid yn yr hinsawdd
  • Creu gridiau deallus
  • Cyflawni camau ymyrydd polisiau pwysig mewn meysydd fel cynhywiant cymdeithasol a darparu gwasanaethau cyhoeddus

Pa gymorth sydd ar gael?

Rydym yn cynnig llawer o gymorth i’r sector. Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan: busnes.cymru.gov.uk (Dolen allanol)