Skip to content

Y sector twristiaeth

Dolenni perthnasol

Mae twristiaeth yn ddiwydiant hynod gystadleuol, deinamig a newidiol.

Mae twristiaeth yn cyfrannu mwy a mwy i les economaidd a chymdeithasol Cymru.

Mae ganddi ran bwysig i'w chwarae yn y gwaith o ddatblygu hunaniaeth genedlaethol nodedig i Gymru yn y DU ac yn rhyngwladol fel lle i ymweld ag ef a buddsoddi ynddo a lle i wneud busnes.

Pam mae twristiaeth yn bwysig i Gymru?

Mae twristiaeth yn fusnes mawr yng Nghymru. Mae twristiaid ac ymwelwyr yn gwario llawer mwy na £12 miliwn yng Nghymru bob dydd. Mae gwaith diweddar yr Uned Ymchwil i Economi Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn dangos bod twristiaeth yn creu cyfanswm o tua £4.7 biliwn bob blwyddyn. Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC) twristiaeth yw £1.6 biliwn, sef rhyw 3.8% o GYC uniongyrchol economi gyfan Cymru. Mae'r gwaith ymchwil hwn yn dangos bod twristiaeth hefyd yn helpu rhyw 68,700 o weithwyr (6.1% o gyfanswm gweithwyr Cymru) yn uniongyrchol. Mae’r bobl hyn yn gweithio mewn:

  • gwestai
  • bwytai
  • tafarnau
  • llyfrgelloedd
  • amgueddfeydd
  • chwaraeon
  • gweithgareddau hamdden eraill

Yn 2011, daeth cyfanswm o 10.6 miliwn o bobl i aros yng Nghymru dros nos.

Roedd dros 90% o'r bobl hynny yn bobl sy'n byw yn y DU, a oedd yn gyfrifol am tua 84% o'r holl wariant twristiaeth dros nos yng Nghymru.

O'r 9.6 miliwn o bobl a ddaeth i aros dros nos roedd 878,000 yn ymwelwyr rhyngwladol, a wariodd £326 miliwn yn 2011. O Weriniaeth Iwerddon, Ffrainc a'r Almaen y daeth y rhan fwyaf o dwristiaid tramor.