Skip to content

Sut mae gwybod beth yw Cymorth Gwladwriaethol

Dolenni perthnasol

Cewch yma wybodaeth ac esboniadau am y rheoliadau ynghylch eithriad bloc, rheoliadau De Minimis, fframweithiau a chanllawiau llorweddol a chanllawiau a rheoliadau sectorau.
Bydd rhaid i unrhyw gymorth a gaiff ei ystyried fel cymorth gwladwriaethol dderbyn y caniatâd angenrheidiol gan y Comisiwn Ewropeaidd cyn y gellir rhoi'r cymorth

Bwriad yr adran hon yw eich tywys drwy'r broses o benderfynu a yw'r cymorth a roddir yn debygol o fod yn gymorth gwladwriaethol.

Cwestiwn 1 A yw'r gweithgarwch yn cefnogi mentrau sy'n rhan o weithgareddau economaidd?

Ceir isod ddiffiniadau a fydd yn eich helpu i ateb y cwestiwn hwn.

Diffiniad o gymorth

Gall y cymorth fod ar ffurf taliad uniongyrchol o adnoddau'r Wladwriaeth ar ffurf grantiau a chymorthdaliadau yn ogystal â manteision anuniongyrchol sy'n effeithio ar y gyllideb gyhoeddus megis toriadau yn y dreth, ad-daliadau ardrethi, benthyciadau isel eu llog, gwerthu tir cyhoeddus islaw pris y farchnad a darparu gwasanaethau yn ddi-dâl neu islaw cyfraddau'r farchnad.

Diffiniad o fenter

Caiff menter ei diffinio fel endid, beth bynnag y bo ei statws cyfreithiol, sydd ynghlwm wrth weithgarwch economaidd (masnachol/cystadleuol) a lle bo marchnad ar gyfer nwyddau neu wasanaethau cyfatebol. Nid oes raid iddi wneud elw cyn belled ag y bo'r gweithgarwch dan sylw, mewn egwyddor, yn un y mae cystadleuwyr masnachol yn ymwneud ag ef. Gall gynnwys cyrff gwirfoddol a chyrff cyhoeddus nad ydynt yn gwneud elw neu gyrff preifat pan fyddant ynghlwm wrth weithgarwch economaidd. Ystyrir bod elusennau, prifysgolion, sefydliadau ymchwil, endidau gwirfoddol, mentrau cymdeithasol a chyrff yn y sector cyhoeddus yn fentrau pan fyddant ynghlwm wrth weithgarwch economaidd.

Diffiniad o weithgarwch economaidd

Ystyr gweithgarwch economaidd yw gweithgarwch sy'n golygu cynnig nwyddau neu wasanaethau yn rhan o farchnad benodedig a allai, mewn egwyddor, gael ei wneud gan gwmni preifat er mwyn gwneud elw.

Os mai eich ateb i gwestiwn 1 yw:

  • Ydy              bydd angen i chi ystyried y cwestiwn 2
  • Nac ydy        mae'r cymorth yn annhebygol o fod yn gymorth gwladwriaethol

Cwestiwn 2  A yw'r cymorth yn cael ei ddosbarthu fel cymorth gwladwriaethol?

Dylai'r wybodaeth yn yr adran hon eich helpu i benderfynu a yw'r cymorth a roddir yn gymorth gwladwriaethol.

Bydd y cymorth a roddir yn gymorth gwladwriaethol lle bo'r holl amodau canlynol yn cael eu bodloni:

  • Bod y cymorth yn cael ei roi gan y wladwriaeth neu drwy adnoddau'r wladwriaeth
  • Bod y mesur yn rhoi mantais i'r sawl sy'n ei dderbyn
  • Bod y mesur yn dewis a dethol, hynny yw, yn ffafrio rhai mentrau neu'r broses o gynhyrchu rhai nwyddau penodol
  • Ei fod yn gwyrdroi'r gystadleuaeth neu fod ganddo'r potensial i wyrdroi'r gystadleuaeth
  • Ei fod yn effeithio ar y fasnach rhwng aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd neu fod ganddo'r potensial i gael effaith o'r fath.

Adnoddau'r Wladwriaeth

Cymorth sy'n cael ei roi gan y wladwriaeth (Llywodraeth Ganol, gweinyddiaethau datganoledig, Awdurdodau Rhanbarthol a Lleol) naill ai'n uniongyrchol neu gan gwmnïau ac asiantaethau a sefydlwyd gan y wladwriaeth i ddosbarthu arian cyhoeddus. Bydd cyllid a gaiff ei ddyrannu o dan reolaeth y Wladwriaeth yn cael ei ddosbarthu hefyd fel adnoddau'r Wladwriaeth hyd yn oed os nad yw'r cyllid hwnnw yn dod yn wreiddiol o gyllideb y Wladwriaeth. Yn y cyswllt hwn, bydd arian y loteri ac arian o'r Cronfeydd Strwythurol yn cael ei ddosbarthu fel adnoddau'r Wladwriaeth.

Rhoi mantais

Caiff mantais ei rhoi pan fydd y cymorth a roddir yn lliniaru'r pwysau a fydd, fe dybir, yng nghyllideb y sawl sy'n derbyn y cymorth a lle bydd yn derbyn mantais economaidd na fyddai wedi'i chael o dan amodau arferol y farchnad. Mantais yw budd a roddir i'r sawl a fydd yn derbyn cymorth a hynny'n ddi-dâl neu ar delerau ffafriol (anfasnachol).

Gall fod mantais o ganlyniad i drosglwyddo adnoddau (grantiau/benthyciadau/darparu gwasanaeth), neu drwy'r rhyddhad a geir rhag peidio â thalu taliadau y bydd cwmnïau fel rheol yn gorfod eu talu (eithriadau rhag talu trethi/benthyciadau ar gyfraddau llog isel).

Dewisol

Mesur dewisol yw un sy'n targedu busnesau arbennig, lleoliadau arbennig, mathau o gwmnïau, er enghraifft caiff mentrau bychain neu sector penodol eu hystyried yn ddewisol. Byddai mesur sy'n rhoi cymorth i bob cwmni yng Nghymru yn cael ei ystyried yn ddewisol hefyd gan mai rhan o aelod-wladwriaeth y Deyrnas Unedig yw Cymru. Ni chaiff mesur cyffredinol a fydd yn effeithio ar economi'r aelod-wladwriaeth gyfan, er enghraifft mesur ariannol ar gyfer y wlad i gyd, ei ystyried yn gymorth gwladwriaethol.

Cymorth sy'n gwyrdroi neu â'r potensial i wyrdroi

Caiff cystadleuaeth ei gwyrdroi os yw'r cymorth dan sylw yn cryfhau safle cystadleuol y sawl sy'n derbyn y cymorth drwy leihau ei gostau o'i gymharu â'i gystadleuwyr. Mae cyfran y fenter o'r farchnad neu i ba raddau y cafodd y gystadleuaeth ei gwyrdroi yn amherthnasol: mae canlyniadau bychan yn ddigon i arwain at wyrdroi'r gystadleuaeth. Caiff hyn ei ddehongli'n eang gan y Comisiwn a chyfrifoldeb yr aelod-wladwriaeth yw profi nad yw'r gystadleuaeth yn cael ei gwyrdroi.

Masnach rhwng aelod-wladwriaethau

Mae'r rhan fwyaf o gynnyrch a gwasanaethau yn cael eu masnachu rhwng aelod-wladwriaethau ac felly gall cymorth ar gyfer unrhyw fusnes neu weithgarwch economaidd effeithio ar fasnach rhwng aelod-wladwriaethau hyd yn oed os nad yw'r sawl sy'n derbyn y cymorth yn masnachu ag aelod-wladwriaethau eraill. Nid oes yn rhaid i gwmnïau eu hunain allforio nwyddau er mwyn gweld effaith ar y fasnach rhwng aelod-wladwriaethau. Digon yw bod masnach o ran cynnyrch neu wasanaethau rhwng aelod-wladwriaethau. Mae'r modd y mae'r Comisiwn yn dehongli'r prawf hwn yn eang iawn. O ganlyniad mae'r rhan fwyaf o weithgareddau yn cael eu hystyried yn fasnach.

Mae'r modd y mae'r Comisiwn Ewropeaidd a Llys Cyfiawnder Ewrop yn dehongli'r profion ar gyfer cymorth gwladwriaethol yn eang. Mae'r potensial i wyrdroi cystadleuaeth ac effeithio ar feini prawf masnach yn arbennig yn eang iawn.

Fodd bynnag, dylid pwysleisio na fydd yr holl gymorth o goffrau cyhoeddus a roddir yn cael ei ddosbarthu'n gymorth gwladwriaethol. Ni fydd cymorth ar gyfer gweithgarwch aneconomaidd neu gymorth nad yw'n bodloni'r pum prawf yn cael ei ystyried yn gymorth gwladwriaethol. 

Am enghreifftiau o'r hyn nad yw'n cael ei ystyried yn gymorth gwladwriaethol ewch i'r dudalen 'Enghreifftiau o'r cymorth nad yw'n cael ei ystyried yn gymorth gwladwriaethol'.

Os yw'r pum prawf yn cael eu bodloni, caiff y cymorth ei ystyried yn gymorth gwladwriaethol a bydd angen darparu'r sicrwydd priodol ar gyfer y cymorth gwladwriaethol yn unol â rheolau cymorth gwladwriaethol. 

I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau ynghylch cymorth gwladwriaethol defnyddiwch y ddolen berthnasol ar y dde.

I gael rhagor o wybodaeth am roi'r sicrwydd perthnasol ynghylch cymorth gwladwriaethol defnyddiwch y ddolen berthnasol ar y dde.