Skip to content

Y rheolau ynghylch cymorth gwladwriaethol

Dolenni perthnasol

Gwybodaeth am Reoliad Eithriad Bloc Cyffredinol
Gwybodaeth am y Rheoliad Eithriad Bloc Gwasanaethau o Fudd Economaidd Cyffredinol
Os na allwch roi sicrwydd ar gyfer cymorth gwladwriaethol yn unol â chynllun a hysbyswyd, rheoliad eithriad bloc neu de minimis edrychwch yma am ganllawiau i'ch helpu.

Cewch yma wybodaeth ac esboniadau am y rheoliadau ynghylch eithriad bloc, rheoliadau De Minimis, fframweithiau a chanllawiau llorweddol a chanllawiau a rheoliadau sectorau.

Diben cyfundrefn Cymorth Gwladwriaethol yw atal llywodraethau rhag rhoi mantais ariannol i gwmnïau mewn modd a allai wyrdroi'r gystadleuaeth a lle bo'r Cytuniad Ewropeaidd yn datgan, fel egwyddor gyffredinol, bod Cymorth Gwladwriaethol yn anghydnaws â'r farchnad gyffredin.  

Er hynny, ni chredir bod holl effeithiau Cymorth Gwladwriaethol yn negyddol eu natur a chaiff ei ganiatáu o dan rai amgylchiadau. Mae'r amgylchiadau hynny lle tybir y gall Cymorth Gwladwriaethol fod yn gydnaws gan y Comisiwn Ewropeaidd wedi'u hamlinellu yn y rheolau ar gyfer Cymorth Gwladwriaethol, sef cyfres o Fframweithiau, canllawiau a rheoliadau ynghylch eithriad bloc.

Rheoliadau Eithriad Bloc

Nodir yn y Rheoliadau ar gyfer Eithriad Bloc gategorïau o gymorth sydd eisoes wedi'u datgan yn rhai sy'n gydnaws gan y Comisiwn. Cyn belled ag y bo holl delerau'r rheoliad dan sylw wedi'u bodloni, nid oes raid hysbysu'r Comisiwn ymlaen llaw a gwneud cais am gymeradwyaeth cyn dyfarnu'r cymorth. Fodd bynnag, mae angen i gymorth a ddarperir o dan y Rheoliadau Eithriad Bloc gael eu cofrestru gyda'r Comisiwn a chydymffurfio â gofynion monitro ac adrodd caeth. Ar hyn o bryd mae dau reoliad ar gyfer eithriadau bloc mewn grym sef y Rheoliad Eithriad Bloc Cyffredinol a'r Rheoliad Eithriad Bloc Buddiant Economaidd Cyffredinol.

I gael rhagor o wybodaeth am y Rheoliad Eithriad Bloc Cyffredinol ewch i'r adran ar Reoliad Eithriad Bloc Cyffredinol.

I gael rhagor o wybodaeth am y Rheoliad Eithriad Bloc Buddiant Economaidd Cyffredinol ewch i'r tudalennau ar y Rheoliad Eithriad Bloc Buddiant Economaidd Cyffredinol.

Rheoliad De Minimis

Mae'r Rheoliad De Minimis yn cyfeirio at y symiau bach o gymorth a fydd ym marn y Comisiwn yn cael fawr ddim effaith ar y fasnach na'r gystadleuaeth rhwng yr aelod-wladwriaethau. Nid oes raid datgan wrth y Comisiwn unrhyw gymorth de minimis a dderbynnir. Y mae fodd bynnag rai gofynion gweinyddol penodol y mae'n rhaid eu bodloni.

I gael rhagor o wybodaeth am de minimis ewch i'r Adran de Minimis ar y safle hwn.

Fframweithiau a Chanllawiau Llorweddol

Mae'r rheolau llorweddol yn rheoli'r cymorth a roddir tuag at wrthrychau sy'n gymwys ar draws yr economi ac fe'u bwriedir i ddatrys problemau a allai godi mewn unrhyw ddiwydiant ac mewn unrhyw wlad. Mae'r Fframweithiau a'r Canllawiau yn nodi pa fath o gymorth a ystyrir yn gydnaws ac a gymeradwyir gan y Comisiwn ac maent hefyd yn nodi barn y Comisiwn ar ystyr cymorth at wahanol ddibenion, er enghraifft, cyfalaf risg, ymchwil, amddiffyniad amgylcheddol ayb. Ni ellir darparu cyllid o dan y rheolau hyn hyd nes y gwneir cais am gymeradwyaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd ac y derbynnir y gymeradwyaeth honno. Caiff hyn ei wneud drwy weithdrefn hysbysu. I gael rhagor o wybodaeth am fframweithiau a chanllawiau llorweddol ewch i'n hadran gyhoeddiadau.

Canllawiau a Rheoliadau Sectorau

Mae'r canllawiau a'r rheoliadau ar gyfer sectorau yn amlinellu'r rheolau a'r rheoliadau sy'n berthnasol i gymorth gwladwriaethol ar gyfer sectorau penodol ac mae'r rhain yn tanseilio'r Fframweithiau Llorweddol, y Rheoliadau Eithriad Bloc a'r Rheoliad De Minimis. 

Mae gan y sectorau canlynol reolau arbennig mewn perthynas â Chymorth Gwladwriaethol:

  • Amaethyddiaeth
  • Dyframaeth/Pysgodfeydd
  • Gwasanaethau Clyweledol (Sinema/Cynyrchiadau teledu a Darlledu)
  • Gwasanaethau post
  • Glo
  • Adeiladu llongau
  • Cludiant.

Mae'n ofynnol hefyd fod y Comisiwn yn cael gwybod am gymorth a ddyfernir o dan y rheolau sectorau.

I gael rhagor o wybodaeth am y canllawiau a'r rheoliadau presenol ar gyfer sectorau ewch i'r adran ar ganllawiau a rheoliadau sectorau.