Skip to content

Y Rheoliad De Minimis

Dolenni perthnasol

Rhagor o wybodaeth i'ch helpu chi gydag unrhyw ymholiadau am De Minimis.

Mae'r Rheoliad De minimis yn ymwneud â symiau bach o gymorth a roddir hyd at drothwy penodedig (€200,000 dros gyfnod o dair blynedd) nad ydynt yn cael eu cyfrif yn gymorth gwladwriaethol yn unol ag Erthygl 87(1) ac sydd felly yn cael eu heithrio rhag gorfod cydymffurfio â gofynion hysbysu'r rheolau sy'n ymwneud â chystadlu rhwng gwahanol fentrau.

Er nad yw'n ofynnol rhoi gwybod i'r Comisiwn am gyllid de minimis a dderbyniwyd na chofrestru symiau o'r fath (am nad ydynt yn eu hanfod yn gymorth gwladwriaethol) mae angen cydymffurfio â'r Rheoliad ac mae yna ofynion gweinyddol caeth y mae'n rhaid glynu wrthynt. Yn arbennig lle bo rhywun sy'n darparu cymorth yn rhoi cymorth de minimis, rhaid iddo:

  • ddweud wrth y sawl sy'n derbyn y cymorth am y goblygiadau o ran ei natur de minimis yn ogystal â lefel y cymorth, gan gyfeirio'n benodol at y rheoliad de minimis;
  • cael gan y sawl sy'n derbyn y cymorth ddatganiad ynghylch ffynonellau de minimis eraill a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol ac yn ystod y ddwy flynedd flaenorol;
  • peidio â rhoi grantiau de minimis newydd ond ar ôl sicrhau na fyddant yn arwain at gynnydd yng nghyfanswm y cymorth de minimis a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod penodedig o dair blynedd ariannol y tu hwnt i'r terfyn o €200,000 (€100,000 ar gyfer mentrau yn y sector trafnidiaeth y ffyrdd).


Gellir gweld y Rheoliad cyflawn ynghylch De minimis ar wefan: http://eur-lex.europa.eu/LexUriServ/LexUriServ.do?uri=OJ:L:2006:379:0005:0010:EN:PDF (Saesneg yn unig).

Gellir gweld cwestiynau cyffredin ynghylch de minimis ar yr ochr dde o dan 'Dolenni Perthnasol'.