Skip to content

Rheoliad Eithriad Bloc Cyffredinol - Cwestiynau cyffredin

Dolenni perthnasol

Diben y nodyn cyfarwyddyd hwn yw rhoi crynodeb o'r sefyllfa o ran Cymorth Gwladwriaethol fel y nodwyd yn y Rheoliad Eithriad Bloc Cyffredinol (RhEBC).
Gall cynlluniau cyhoeddedig sydd eisoes yn bod gael eu defnyddio yn achos rhai mathau o gymorth.
Gwybodaeth am y Rheoliad Eithriad Bloc Gwasanaethau o Fudd Economaidd Cyffredinol

Yma, gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Rheoliad Eithriad Bloc Cyffredinol drwy ddarllen ein cwestiynau cyffredin.

Sut mae mynd ati i gofrestru fy nghynllun/cymorth unigol o dan y Rheoliad Eithriad Bloc Cyffredinol?

Mae'n bwysig bod y cymorth a ddarperir yn bodloni holl feini prawf y Rheoliad Eithriad Bloc Cyffredinol (RhEBC) gan gynnwys y darpariaethau cyffredin a noddwyd yn y Rheoliad a'r amodau penodol sydd wedi'u cysylltu â'r categori o gymorth yr ydych yn dymuno'i ddefnyddio. Yna, bydd angen i chi lenwi ffurflen crynhoi gwybodaeth (SOI) (atodiad 3 o'r RhEBC). Yn rhan o'r crynodeb bydd rhaid i chi gynnwys cyfeiriad gwefan lle y caiff hoff fanylion y cynllun/cymorth ad hoc eu cyhoeddi. Rhaid llenwi'r ffurflen a'i hanfon at Uned Cymorth Gwladwriaethol Llywodraeth Cymru cyn pen 10 diwrnod i gychwyn y cynllun/y rhoi'r y cymorth. Yna, caiff yr SOI ei hanfon, gan ddefnyddio system gofrestru arlein y Comisiwn, at yr Adran dros Fusnes, Arloesedd a Sgilliau er mwyn ei gyflwyno i'r Comisiwn. Bydd y Comisiwn yn ei dro yn rhoi cyfeirnod unigryw a dylid  defnyddio'r cyfeirnod hwn yn yr holl ohebiaeth sy'n berthnasol i'r cymorth.  

Mae rhestr llawn o bawb sydd wedi cofrestru yng Nghymru o dan y RhEBC ar gael ar ochr dde'r dudalen.

Beth ddylwn i ei wneud unwaith y byddaf wedi derbyn fy rhif cofrestru? 

Mae'r Comisiwn yn rhoi cyfeirnod unigryw i bob cynllun cymwys. Rhaid i'r rhai sy'n derbyn cymorth gael eu hysbysu yn ysgrifenedig am y cyfeirnod a dylid dyfynnu'r cyfeirnod yn yr holl ohebiaeth sy'n berthnasol i'r cynllun.

Alla'i ddarparu arian ar gyfer pob un o'm mentrau, o dan bob un o'r amgylchiadau o dan y RhEBC?

Mae rhai cyfyngiadau mewn perthynas â'r mathau o fentrau a gweithgareddau sy'n gallu derbyn cymorth o dan y RhEBC. Er enghraifft ni allwch roi cymorth i fentrau sydd mewn trafferthion o dan y RhEBC, nac ychwaith rhoi cymorth i weithgareddau sy'n ymwneud ag allforio neu gymorth rhanbarthol i fentrau yn y sectorau dur, glo a ffibrau synthetig. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfyngiadau ar gael yng Nghrynodeb y RhEBC sydd ar gael yma.

Rwy'n gweithredu cynllun sydd wedi'i gofrestru o dan y RhEBC, beth yw fy nghyfrifoldebau? 

Rhaid i unrhyw gymorth a ddyfernir o dan y cynllun gael ei ddarparu yn unol â'r RhEBC. Bydd rhaid i chi o leia sicrhau:

  • bod yr holl feini prawf wedi eu bodloni gan gynnwys darpariaethau cyffredin ac amodau penodol sydd wedi'u cysylltu â chategori'r cymorth
  • ei bod hi'n bosibl i gefnogi'r fenter o fewn cwmpas y RhEBC (cyfeiriwch at y cwestiwn blaenorol er mwyn gweld y cyfyngiadau)
  • ei bod hi'n bosibl cefnogi'r costau cymwys yn unol â'r RhEBC
  • nad yw'r uchafswm ar gyfer y lefel uchaf o gymorth fesul eitem a'r uchafswm ar gyfer y lefel uchaf o gymorth yn cael eu torri.

Rwy'n gweithredu cynllun o dan y RhEBC ac rwyf wedi deall bod disgwyl i mi gadw cofnodion am gyfnod o 10 mlynedd. Ydy'r cyfnod 10 mlynedd yn dechrau ar yr un adeg â'r cynllun neu ar ddyddiad y taliad olaf?

Un o ofynion y RhEBC yw bod cofnodion am y cymorth a roddir yn cael eu cadw am gyfnod o 10 mlynedd. Os mai un buddiolwr yn unig sy'n derbyn y cymorth yna mae'r cyfnod 10 mlynedd yn dechrau cyn gynted ag y rhoddir y taliad olaf. Pan roddir cymorth o dan gynllun,  bydd y cyfnod yn dechrau unwaith y rhoddir y taliad olaf (ee os bydd cynllun yn parhau am gyfnod o 3 blynedd yna cedwir y dogfennau am gyfnod  o ryw 13 blynedd).

Beth yw gofynion cofnodi y RhEBC?

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn ei gwneud hi'n ofynnol bod ffurflen wybodaeth flynyddol yn cael ei darparu mewn perthynas â'r cymorth a roddir o dan y RhEBC. Defnyddir yr wybodaeth hon i fonitro'r defnydd a wneir o'r RhEBC ac i sicrhau bod y rheoliad yn cael ei ddefnyddio'n briodol. Mae'n caniatáu i'r Comisiwn Ewropeaidd ac eraill sydd â diddordeb yn y maes i gadarnhau bod yr Aelod-wladwriaethau yn rhoi'r RhEBC ar waith yn gywir. 
 
Fel rhan o'r ymarfer casglu gwybodaeth flynyddol bydd angen i weinyddwyr ddarparu'r wybodaeth ganlynol o leiaf:

  • Swm y cymorth a roddir o dan y RhEBC fesul blwyddyn galendr
  • Dyddiad dechrau a gorffen y cynllun neu'r cymorth ad hoc a gofrestrwyd o dan y RhEBC.

Uned Cymorth Gwladol Llywodraeth Cymru sy'n cydgysylltu'r ymarfer casglu gwybodaeth yn flynyddol, serch hynny gweinyddwyr y cymorth sy'n gyfrifol am sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn gywir.

Beth yw'r goblygiadau sy'n deillio o beidio â chydymffurfio â thelerau ac amodau'r RhEBC?

Mae'r Comisiwn yn fwy llym mewn perthynas â pheidio â chydymffurfio â'r gofynion gweinyddol sy'n gymwys i fesurau cymorth gwladol cofrestredig. Byddai peidio â'u rhoi nhw ar waith yn gywir yn golygu nad oes sicrwydd cyfreithiol ar y cymorth a ddyfarnwyd o dan y mesur ac mae yna risg y gallai'r Comisiwn ofyn am y cymorth yn ôl.

Yn yr achosion hynny pan fydd y Comisiwn yn gweld bod y RhEBC yn cael ei gamddefnyddio, mae gan y Comisiwn y pŵer i atal yr Aelod-wladwriaeth rhag ei ddefnyddio gan arwain at orfodi'r holl fesurau cymorth i hysbysu'r Comisiwn yn uniongyrchol.