Skip to content

Beth yw Cymorth Gwladwriaethol?

Dolenni perthnasol

Cewch yma wybodaeth ac esboniadau am y rheoliadau ynghylch eithriad bloc, rheoliadau De Minimis, fframweithiau a chanllawiau llorweddol a chanllawiau a rheoliadau sectorau.
Dylai'r wybodaeth hon fod o help i chi wybod beth yw cymorth gwladwriaethol.
Bydd rhaid i unrhyw gymorth a gaiff ei ystyried fel cymorth gwladwriaethol dderbyn y caniatâd angenrheidiol gan y Comisiwn Ewropeaidd cyn y gellir rhoi'r cymorth

Term gan y Comisiwn Ewropeaidd yw cymorth gwladwriaethol sy'n cyfeirio at fathau o gymorth  gan gorff cyhoeddus neu gorff sy'n cael ei noddi'n gyhoeddus, a roddir i fentrau sy'n ymwneud â gweithgarwch masnachol economaidd ar sail ddewisol, ac sydd â'r potensial i wyrdroi'r gystadleuaeth ac effeithio ar fasnach rhwng aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd.

Gall cymorth cyhoeddus ffafraethol wyrdroi'r farchnad, a gall hynny, yn ei dro arwain at lai o gystadleuaeth ymhlith busnesau, llai o arloesi, ac, yn y pen draw, arwain at brisiau uwch i ddefnyddwyr. Felly mae angen rheolaeth effeithiol ar gymorth gwladwriaethol er mwyn sicrhau tegwch a chystadleuaeth rydd a theg yn y farchnad sengl ac er mwyn diogelu rhag rhuthro am iawndaliadau a diffyndollaeth genedlaethol.

Cynlluniwyd rheolau cymorth gwladwriaethol er mwyn rheoleiddio cymorthdaliadau ac atal awdurdodau cyhoeddus rhag gwyrdroi'r marchnadoedd. Maent hefyd yn darparu'r fframwaith a'r ddisgyblaeth er mwyn helpu awdurdodau cyhoeddus i sicrhau bod adnoddau cyhoeddus prin yn cael eu targedu lle mae eu hangen fwyaf a hynny mewn dull effeithlon ac effeithiol.  

Cymorth gwladwriaethol - y diffiniad

Mae'r diffiniad o gymorth gwladwriaethol yn deillio o Erthygl 87(1) o Gytundeb y CE sy'n nodi:

"Any aid granted by a Member State or through State resources in any form whatsoever which distorts or threatens to distort competition by favouring certain undertakings or the production of certain goods shall, in so far as it affects trade between Member States, be incompatible with the common market"

Mae'r diffiniad hwn yn trosglwyddo i 5 o brofion neu feini prawf, a rhaid bodloni'r pump ohonynt er mwyn sicrhau bod cymorth gwladwriaethol ar gael:

  • rhoddir cymorth gan aelod-wladwriaeth neu drwy ffynonellau gwladwriaethol (gan gynnwys ee dosbarthu arian loteri a chronfeydd Ewropeaidd);
  • mae cymorth yn rhoi mantais i'r sawl sy'n ei dderbyn;
  • mae'n ffafrio rhai mentrau masnachol neu'r gwaith o gynhyrchu rhai nwyddau penodol (sef rhaid iddo fod yn ddewisol ei natur); 
  • mae'n gwyrdroi'r gystadleuaeth neu mae ganddo'r potensial i wyrdroi'r gystadleuaeth;
  • mae modd masnachu'r gweithgarwch rhwng yr Aelod-wladwriaethau ac mae gan y cymorth y potensial i effeithio ar fasnach.

Rhaid bodloni pob un o'r pum amod er mwyn sicrhau bod cymorth gwladwriaethol ar gael.

Yn ymarferol, bydd angen ystyried cymorth Gwladwriaethol pan fydd awdurdodau cyhoeddus yn rhoi cymorth i unrhyw sefydliad sy'n ymwneud â gweithgareddau economaidd beth bynnag y bo statws cyfreithiol y sefydliad o dan sylw.

Mae rhagor o wybodaeth am y dehongliad o'r pum prawf a'r broses o wybod beth yw cymorth gwladwriaethol  ar gael ar ochr dde'r dudalen.

Pa bryd y caniateir cymorth gwladwriaethol?

Yn gyffredinol, mae'r Comisiwn yn gwahardd cymorth gwladwriaethol oni bai fod modd ei gyfiawnhau am resymau datblygu economaidd. Mae'r amgylchiadau lle y caniateir cymorth gwladwriaethol wedi eu nodi yn rheolau cymorth Gwladwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd - cyfres o fframweithiau, canllawiau a rheoliadau sy'n nodi pa gymorth y gellir ei roi. Mae'r rheolau yn galluogi awdurdodau lleol i dargedu'r cymorth er mwyn mynd i'r afael â diffygion yn y farchnad er mwyn cyflawni canlyniadau cadarnhaol o ran polisi, er enghraifft i hwyluso cwmnïau i fod yn gystadleuol drwy wario ar waith ymchwil, gwella'r ffordd y mae cwmnïau bach yn cael gafael ar gyfalaf menter, cefnogi'r amgylchedd, annog datblygu rhanbarthol neu helpu pobl i gael gafael ar hyfforddiant.

Mae rhagor o wybodaeth am reolau cymorth gwladwriaethol ar gael ar ochr dde'r dudalen.

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn llywodraethu sut y mae aelod-wladwriaethau yn cydymffurfio â'r rheolau hyn a rhaid iddynt gael eu hysbysu am yr holl gynlluniau sy'n ymwneud â chymorth gwladwriaethol. Rhaid i gymorth gwladwriaethol gael y caniatâd angenrheidiol gan y Comisiwn Ewropeaidd cyn y gellir rhoi cymorth.

Mae rhagor o wybodaeth mewn perthynas â chael y caniatâd perthnasol ar gael ar ochr dde'r dudalen.

Beth yw'r goblygiadau sy'n deillio o anwybyddu rheolau cymorth gwladwriaethol?

Mae cymorth gwladwriaethol sydd heb ei awdurdodi yn gymorth anghyfreithlon, a phetai'r awdurdodau cyhoeddus yn gwneud camgymeriad, yna mae gan y Comisiwn Ewropeaidd yr hawl i fynnu bod y sawl sy'n derbyn y cymorth yn ad-dalu'r arian â llog. Gall y sawl sy'n derbyn y cymorth ddwyn achos yn erbyn yr awdurdod dyfarnu i hawlio iawndal am y cymorth anghyfreithlon y bu'n rhaid iddynt ei ad-dalu.

Gall cwmnïau sy'n cystadlu ac sy'n teimlo eu bod wedi cael cam wneud cwyn am gymorth gwladwriaethol anghyfreithlon yn uniongyrchol at y Comisiwn er mwyn iddynt hwy gynnal archwiliad.

Yn ogystal, mae posibilrwydd y gall atal cynlluniau a newid polisïau arwain at niweidio enw da'r awdurdod cyhoeddus sy'n ariannu.