Skip to content

Amdano'r pwnc hwn

Rydym ni’n arwain y gwaith yng Nghymru i sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, gan gefnogi eu lles corfforol ac emosiynol bob amser. Mae’r hyn yr ydym ni’n ei wneud yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Rydym ni’n gyfrifol am sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn mwynhau’r iechyd:

  • corfforol 
  • meddyliol 
  • cymdeithasol ac 
  • emosiynol gorau posibl, gan gynnwys rhyddid rhag cael eu cam-drin, eu herlid neu ddioddef camfanteisio.

Ein gwaith ni yw gweithredu polisïau ym mhob rhan o’r llywodraeth sy’n diogelu anghenion plant. Rydym ni’n gwneud hynny drwy elfennau’r Rhaglen Lywodraethu sy’n ymwneud â Phlant a Phobl Ifanc, gan gynnwys:

  • Cyflwyno’r Bil Plant a Phobl Ifanc.
  • Sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd trwy gyfrwng mentrau amrywiol, gan gynnwys Dechrau’n Deg, Timau Cymorth Dwys i Deuluoedd a Teuluoedd yn Gyntaf.