Skip to content

Amddiffyn plant

Dolenni perthnasol

Gwneud argymhellion ar gryfhau’r trefniadau ar gyfer diogelu plant yng Nghymru.
Anelir y Canllawiau hyn at Brif Swyddogion a phob rheolwr ac ymarferwr yn y cyrff hynny a enwir yn adrannau 28 a 31 o Ddeddf Plant 2004.
Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y cwtogir ar y cynllun fetio a gwahardd, gan sicrhau ar yr un pryd fod grwpiau sy'n agored i niwed yn cael eu hamddiffyn yn briodol.
Paratowyd y llyfryn hwn i godi ymwybyddiaeth staff ysgol a phobl eraill sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc o gam-drin domestig.
Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol

Mae diogelu plant yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru ac asiantaethau lleol. Rydym eisiau sicrhau bod polisïau ac arferion ledled Cymru, ar lefel genedlaethol a lleol, yn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i blant o ran eu hamddiffyn a diogelu'u lles.

Yn dilyn adroddiad yr Arglwydd Laming i farwolaeth Victoria Climbié sefydlwyd fframwaith diwygiedig ar gyfer mynd i'r afael â cham-drin plant drwy ddeddfwriaeth, canllawiau a strwythurau newydd.

Ymateb i farwolaeth Peter Connelly

Ym mis Tachwedd 2008 gwnaeth Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, ddatganiad ysgrifenedig mewn ymateb i farwolaeth  Peter Connelly yn Haringey. I weld y datganiad y llawn defnyddiwch y Ddolen Berthnasol ar ochr dde'r dudalen hon.

Gwnaeth y datganiad bennu rhaglen waith a chamau ychwanegol sydd i'w cymryd yng Nghymru o ganlyniad i'r achos. Yr oedd yn cynnwys:

Archwilio trefniadau lleol

Ysgrifennodd swyddogion Llywodraeth Cymru at:

  • Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Cyfarwyddwyr Addysg
  • Cyfarwyddwyr sy'n arwain Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc
  • Cadeiryddion Byrddau Lleol Diogelu Plant 
  • swyddogion sy'n arwain gwasanaethau plant a phobl ifanc cyrff y GIG.

Fe wnaethom ofyn iddynt gynnal archwiliad a chadarnhau bod trefniadau cadarn yn eu lle yn lleol er mwyn sicrhau bod lles plant sy'n agored i niwed yn cael ei ddiogelu'n llawn.

Adolygiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)

Adolygiad gan AGGCC o awdurdodau lleol a Byrddau Lleol Diogelu Plant. Ewch i wefan AGGCC i weld copi o'r adroddiad.

Adolygiad o'r broses  ar gyfer Adolygu Achosion Difrifol

Adolygiad o'r broses ar gyfer Adolygu Achosion Difrifol a newidiadau posibl i'r broses honno yn y dyfodol. Ewch i wefan AGGCC i weld yr adroddiad ar Adolygu Achosion Difrifol.

Yn sgil canfyddiadau'r gwaith  hwnnw sefydlwyd Grŵp Cynghori er mwyn drafftio fframwaith newydd ar gyfer cynnal adolygiad pan fydd plentyn yn marw neu yn cael niwed sy'n gallu achosi marwolaeth neu nam difrifol i'w iechyd neu ei ddatblygiad a bod amheuon  neu wybodaeth ar gael fod y plentyn yn cael ei gam-drin neu ei amddifadu. Bydd y Grŵp yn rhoi adroddiad ar gyfer y Dirprwy Weinidog yn ystod haf 2010 gyda'r bwriad o ymgynghori yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Adolygiad Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru

Adolygiad gan Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru o'r trefniadau diogelu sydd yn eu lle ar draws Gwasanaet Iechyd Gwladol Cymru. Ewch i wefan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru er mwyn darllen yr adroddiad.

Fforwm Diogelu Plant Cymru

Yn dilyn cyhoeddi’r tri adolygiad a gynhaliwyd yn 2009, gwnaeth y Dirprwy Weinidog ddatganiad pellach gerbron y Cyfarfod Llawn yn Hydref 2009. Cyhoeddodd sefydlu’r Fforwm Diogelu Plant i Gymru i sicrhau bod y rôl diogelu’n cael ei gyflawni ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol.

Cadeiriwyd y Fforwm, a gwblhaodd ei waith yn Awst 2011, gan Phil Hodgson, cyn Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru.  Ymhlith aelodau eraill y grŵp oedd uwch-gynrychiolwyr o:

  • Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru;
  • SOLACE;
  • Byrddau Iechyd Lleol;
  • Cymdeithas Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol;
  • Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru;
  • Heddlu;
  • Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid;
  • Plant yng Nghymru;
  • Estyn;
  • Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC);
  • Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC); a
  • a Comisiynydd Plant Cymru yn ogystal ag uwch swyddogion perthnasol o Lywodraeth Cymru.

Cyflwynodd y Fforwm adroddiad terfynol a oedd yn cynnwys cyngor ac argymhellion ar gryfhau’r trefniadau ar gyfer diogelu plant yng Nghymru. Bydd yr adroddiad yn cyfrannu at y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru).

Cydgysylltu gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion

Cynhaliodd AGGCC ac Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru adolygiad o'r broses o gydgysylltu gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion pan fydd gan berson sydd â phroblemau iechyd meddwl a/ neu broblemau cam-ddefnyddio sylweddau blant. Edrychodd yr adolygiad ar y trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau i blant yn y teuluoedd hyn, er mwyn sicrhau bod lles y plant yn cael ei ddiogelu a'i hyrwyddo.

Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd

Mae hyn wedi arwain at gynigion i gyflwyno cymorth i blant a theuluoedd sy'n agored i niwed drwy ddull newydd o weithredu ar gyfer y Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd. Bydd y Timau yn diwygio'r ffordd y caiff gwasanaethau eu trefnu a'u darparu ar gyfer plant a theuluoedd sy'n agored i niwed sydd ag anghenion cymhleth ac sydd angen cymorth integredig dwys gan weithwyr proffesiynnol sydd â'r sgiliau priodol.  

Rhaglen o waith i gydgrynhoi a datblygu ymhellach ganllawiau atodol  i gefnogi'r canllawiau 'Diogelu Plant: Gweithio gyda'n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004’ .