Skip to content

Chwarae a hamdden

Dolenni perthnasol

Credwn fod gan blant hawl sylfaenol i allu chwarae.
Mae pob canolfan yn darapru chwarae mynediad agored, addysg blynyddoedd cynnar, gofal plant o ansawdd uechl, hyfforddiant cymunedol a gwasnaethau hanfodol eraill sy'n cefnogi teuluoedd.
Ffynonellau data sydd i'w cael ar blant a phobl ifanc i gefnogi'r gwaith o fonitro Nod Craidd 4.

Er mwyn sicrhau'r iechyd a lles gorau posibl dylai bod gan bob plentyn a pherson ifanc fynediad at amrywiaeth o weithgareddau hamdden.

Nod Craidd 4

Mae Nod Craidd 4 yn mynnu bod gan pob plentyn a pherson ifanc fynediad at weithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol.

Dylai awdurdodau lleol gynllunio gyda'u partneriaid i ddarparu neu sicrhau cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc. Dyali gwasanaethau cymorth ieuenctid roi'r hawl i bobl ifanc allu cyrchu cyfleoedd hamdden a chymdeithasol, chwaraeon, diwylliant, cerddoriaeth a'r celfyddydau hygyrch.

Bydd ystod o sefydliadau yn darparu gweithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol i blant a phobl ifanc, gan cynnwys:

  • gwasanaethau hamdden awdurdodau lleol
  • Canolfannau Plant Integredig
  • gwasanaethau cymorth ieuenctid
  • sefydliadau gwirfoddol.