Skip to content

Y rhaglen Ieuenctid ar Waith

Mae Ieuenctid ar Waith yn rhaglen Ewropeaidd ar gyfer pobl ifanc 15-28 oed (13-30 oed mewn rhai achosion). Ei nod yw ysgogi ymdeimlad o ddinasyddiaeth weithredol, undod a dealltwriaeth gyffredin ymhlith Ewropeaid ifanc a'u cynnwys yn y gwaith o lywio dyfodol yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r rhaglen, sydd â chyllideb o €885 miliwn ar gyfer saith mlynedd (2007-2013), yn cefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau ar gyfer pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid drwy gyfrwng 5 maes gweithgarwch.

Meysydd gweithgarwch y rhaglen

Maes 1: Ieuenctid o blaid Ewrop

  • Annog dinasyddiaeth weithredol, cyfranogiad a chreadigrwydd ymhlith pobl ifanc drwy raglenni cyfnewid, mentrau ieuenctid a phrosiectau'n ymwneud â democratiaeth ieuenctid.

Maes 2: Gwasanaeth Gwirfoddol Ewropeaidd

  • Helpu pobl ifanc i ddatblygu ymdeimlad o undod drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddol tramor di-dâl nad ydynt gwneud elw, naill ai'n unigol neu fel rhan o grŵp.

Maes 3: Ieuenctid ar draws y byd

  • Hyrwyddo partneriaethau a rhaglenni cyfnewid ymhlith pobl ifanc a sefydliadau ieuenctid ar draws y byd.

Maes 4: Systemau cefnogi ieuenctid

  • Cefnogi gweithwyr ieuenctid a sefydliadau ieuenctid a gwella ansawdd eu gweithgareddau.

Maes 5: Cefnogaeth ar gyfer cydweithredu Ewropeaidd ym maes ieuenctid

  • Cefnogi cydweithio ar lefel Ewropeaidd wrth ddatblygu polisïau ar gyfer pobl ifanc, yn enwedig drwy hwyluso trafodaethau rhwng pobl ifanc a datblygwyr polisi.

Sut i gymryd rhan

Gallwch gymryd rhan yn y Rhaglen mewn dwy ffordd.

1. Yn unigol

Rhaid i chi fod:

  • yn berson ifanc rhwng 13-30 oed neu'n weithiwr ieuenctid
  • yn frwdfrydig, yn greadigol ac yn llawn syniadau yr hoffech eu datblygu
  • yn chwilio am gyfleoedd i gwrdd â phobl ifanc neu weithwyr ieuenctid o wledydd eraill a rhannu syniadau ac arferion â nhw
  • â diddordeb mewn gwaith gwirfoddol mewn gwlad arall.
Sut i wneud cais

Darllenwch y canllaw ar y rhaglen Ieuenctid ar Waith ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd (yn Saesneg yn unig). Bydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y meysydd gweithgarwch a'r mathau o weithgareddau y mae'r rhaglen yn eu cefnogi.

Lawrlwythwch ffurflenni cais oddi ar wefan Ieuenctid ar Waith (yn Saesneg yn unig).

Cymorth i wneud cais

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth a chyngor, cysylltwch â'ch Grŵp Cynghori yng Nghymru (katie.antippas@wales.gsi.gov.uk) neu ewch i wefan Cyngor Prydeinig (yn Saesneg yn unig).

2. Fel hyrwyddwr

Gallwch fod yn:

  • sefydliad ieuenctid anlywodraethol
  • grŵp anffurfiol o bobl ifanc
  • corff cyhoeddus lleol neu ranbarthol
  • corff Ewropeaidd sy'n ymwneud â'r maes ieuenctid.

Rhaid eich bod hefyd yn fodlon datblygu prosiect a chyflwyno cais am gyllid o dan y rhaglen Ieuenctid ar Waith.

Sut i wneud cais

Os hoffech gymryd rhan a chyflwyno cais am gyllid, darllenwch y canllaw ar y rhaglen Ieuenctid ar Waith ar wefan y Comisiwn Ewopeaidd (yn Saesneg yn unig) yn y lle cyntaf.

Gallwch lawrlwytho ffurflenni cais o'r wefan Ieuenctid ar Waith (yn Saesneg yn unig).

Cymorth i wneud cais

Gallwch gael cymorth, hyfforddiant a chyngor ym mhob cam o'r broses oddi wrth eich Grŵp Cynghori yng Nghymru (katie.antippas@wales.gsi.gov.uk) a'r wefan Cyngor Prydeinig (yn Saesneg yn unig). Mae croeso i chi gysylltu â nhw ar unrhyw adeg yn y broses!

Rhagor o wybodaeth

Ceir rhagor o wybodaeth am y rhaglen ar wefan yr Undeb Ewopeaidd (yn Saesneg yn unig).